Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo, "fel shots"; llaeth "cyn sured a gwinegr," pwdin mawr, o flawd haidd, yntau cyn ddued a'r parddu; llwyau a dysglau pren; ac un gyllell yn gyffredin rhwng pawb; a Robert Prys wrth ben y bwrdd yn cymell yn daer yn ei lais aflafar: "Bytwch, gyfeillion annwyl! mae'n Tad nefol yn dda iawn wrthym ni yn trefnu fel hyn mor helaeth ar ein cyfer ni, a ninnau'n haeddu dim; diolch iddo byth!" Er mor brin ei ddawn, bu'r hen bregethwr ffyddlon yn swcwr i'r Achos yn ei gymdogaeth ei hun am flynyddoedd lawer, a bu o wasanaeth mewn llawer cylch arall. Bu farw yn y flwyddyn 1809, yn un ar ddeg a thrigain mlwydd oed, wedi bod yn pregethu am dros hanner can mlynedd.

Parhawyd i gynnal y moddion crefyddol "deirgwaith bob Saboth" yn nhŷ William Llwyd, am yn agos i ddwy flynedd; ond aeth yr ystafell fechan yn rhy gyfyng i'r gynulleidfa, er nad oedd y cynulliad yr adeg honno, yn ôl a adroddir, ond oddeutu pymtheg. Dechreuwyd chwilio am ystafell fwy cyfleus. Erbyn hyn, hefyd, dechreuasai nifer y Cymry yn y dref gynyddu. "Yr oedd yno," ebe Evan Roberts, Dinbych, "lawer o bobl ieuainc yn gweini, a llawer o deuluoedd nad allent ddeall yr iaith Saesonig, a bu y pregethu Cymraeg yn fendith fawr i'r dref. Buom ar y cyntaf yn methu cael pregethwyr ond yn anfynych; yr oedd yn gryn draul dyfod dros yr afonydd, a'r moddion yn fychan i'w cynal. . . . Ar y Sabbothau na byddai pregethwyr Cymreig yn y dref, byddai y Cymry yn myned gyda'i gilydd, rhai i'r wlad ac eraill i'r tafarnau; nid oedd ganddynt duedd i wrando yn yr iaith Saesonig." Ychwanega: "Darfu i mi a dau eraill gymeryd hen fasnachdy yn ngwaelod heol Dale, fel y cai y Cymry le i bregethu yn yr iaith Gymreig." Dechreuwyd cynnal y gwasanaeth Sabothol yn yr ystafell honno yn 1784, ond parhawyd i gynnal y cyfarfodydd eglwysig yn nhŷ William Llwyd.

Safai y "masnachdy" a ddaeth yn gartref newydd i'r eglwys fechan, yn y fan a elwir yn awr North Street, ym mhen isaf Dale Street. Nid yw North Street wedi ei nodi ar y Map a geir o'r dref y blynyddoedd hynny; y tebyg yw nad oedd yr heol wedi ei hagor. Dywedir mai "lle hyfryd a thawel ydoedd yr adeg honno, yng nghwr y wlad, lle trigai bonedd-