Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

igion a marsiandwyr y dref." Disgrifir y "masnachdy" fel ystafell eang iawn," ond "tlodaidd ac isel iawn." Disgrifid hi gan William Davies y Golch, fel" shed." Awgryma Corfannydd mai hen Coach-house neu ystabl perthynol i dŷ un o'r marsiandwyr a fu'n preswylio yno ydoedd. Ei pherchennog oedd wr a adweinid fel "Merchant Billy," neu "Billy the Ragman." Ceid yn ei fasnachdy bob amrywiaeth o nwydd- au. Nid hir y buwyd cyn llysenwi yr ystordy yn "gapel Merchant Billy" a'r gynulleidfa yn "bobl Merchant Billy." "Yr oedd yr ystafell hon," ebe Samuel Jones, a chryn hynodrwydd ynglŷn â hi. Un hynod o ddiragfarn, gellir casglu, ydoedd Merchant Billy; ni phetrusai osod ei warehouse i unrhyw ddiben. Mynych y gwelid o'i mewn eirch a chyrff ynddynt mewn rhyw gongl o'r ystafell, ar yr un adeg ag y byddai y cyfeillion yn cynnal eu cyfarfodydd crefyddol ynddi"[1] Adroddai yr hen bregethwr o'r Golch i ddau gorff marw dynion wedi boddi, gael eu dwyn i mewn a'u gosod mewn cwr o'r ystafell, i aros trengholiad, tra yr oedd ef ar ganol ei bregeth yn y cwr arall ohoni! "Diben arall a fyddid yn ei wneud o'r ystafell," yn ôl Samuel Jones, "oedd ei gosod i gipsies, a phob math o grwydriaid i letya. Anfynych iawn y gadawai y tylwyth yma y lle heb adael ar eu hôl genhedlaeth os nad cenedlaethau o greaduriaid, y rhai oherwydd colli eu gafael o'r rhai a'u magodd ac a'u dygodd i fyny, a lynent yn heidiau (er na byddai iddynt ond ychydig groesaw) wrth y Cymry glanwaith a ddeuai i'r lle i addoli. Ond er mor ddirmygus ac aflan y lle y bu ein tadau yn addoli o'i fewn, fe welodd yr Arglwydd yn dda gyflawni ei addewid i'w bobl, 'Ym mhob man lle y rhoddaf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac y'th fendithiaf'."[2]

  1. "Y Drysorfa," 1849, t.d. 347.
  2. " Y Drysorfa," 1863, t.d. 413.