Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.

"YR HEN BALL MALL."

NI feddwn ar unrhyw fanylion yn awr mewn perthynas i'r eglwys fechan a gydgyfarfuai ac a gydaddolai yn ystordy Merchant Billy. Amhosibl ydyw peidio ag edmygu sêl ac ymroad y cwmni bychan a ddeuai ynghyd, Saboth ar ôl Saboth, am bedair blynedd o amser, i le oedd mor anfanteisiol ac mor anymunol. Parhaent i ddibynnu am eu gweinidogaeth ar bregethwyr Sir Fflint, oddieithr digwydd dyfod o bregethwyr eraill ar ymweliadau achlysurol â'r dref. Yn y flwyddyn 1785 ymwelodd y Parch. Thomas Charles, y Bala, â Liverpool. Hwn, fel y mae pob lle i gredu, ydoedd ei ymweliad cyntaf.[1] Y mae'n lled sicr ddarfod i Mr. Charles bregethu rai troeon yn yr ystordy; cadarnheir hyn gan Atgofion Evan Roberts, Dinbych, yr hwn a ddywaid iddo, tra'n lletya gyda William Llwyd, fod yn ymddiddan â'r Parch. Thomas Charles o'r Bala, Mr. Dafydd Cadwalader, a'r holl bregethwyr fyddai yn dyfod i'r dref." Rhaid bod hyn yn ystod yr amser y cyfarfuai'r eglwys yn yr ystordy, oherwydd cawn fod Evan Roberts wedi symud am dymor i Fanchester cyn i'r eglwys ymado â North Street.[2]

Pan symudodd yr eglwys o dŷ William Llwyd rhifai "oddeutu pymtheg." Erbyn diwedd y flwyddyn 1786, sef ymhen

  1. Yng Nghofiant Mr. Charles gan y Parch. Thomas Jones, Dinbych, adroddir iddo gael dihangfa ryfedd ar un o'i ymweliadau cyntaf â Liverpool. Eisteddasai Mr. Charles mewn un o ddau gwch oedd ar fin croesi'r afon o ochr Sir Gaer, ac yn ddamweiniol sylwodd bod ei farch-gôd (saddle-bag) wedi ei roddi, drwy amryfusedd, yn y cwch arall. Cododd ar unwaith, ac aeth i'r cwch hwnnw. Suddwyd y cwch yr aethai iddo gyntaf, a boddwyd pawb oedd ynddo. Wedi deall am ei ddihangfa gyfyng, teimlai Mrs. Charles yn anfodlon iddo ymweled â Liverpool drachefn, a cheisiodd ei rwystro i gyflawni ei addewid nesaf i'r eglwys yno. Y noswaith cyn bod raid iddo gychwyn, fodd bynnag, perwyd cryn ddychryn yn y teulu drwy i un o'r plant syrthio dros erchwyn ei wely ac anafu ei hun. Argyhoeddodd hynny Mrs. Charles" y gallai yr Arglwydd ddewis ei farn a'i gerydd i'w rhoddi arnynt gartref, yn gystal ag oddicartref, ac am hynny (dywedai) mi a'ch rhoddaf yn Ei law Ef."
  2. Gwelwn fod Evan Roberts yn Liverpool drachefn yn 1791, ac arferai wrando, yn achlysurol o leiaf, yng nghapel Pall Mall; ond nid yw yn debygol iddo ymaelodi yn yr eglwys. Cwynai bod gwrando athrawiaeth y Calfiniaid, "etholedigaeth ddiamodol, prynedigaeth neilltuol, ewyllys gaeth, parhad mewn gras, yn ei wneud yn esgeulus."