Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pedair blynedd wedi dechrau yr Achos, cynyddasai yr aelodau i ddeuddeg ar hugain. Parhaodd y gynulleidfa i gynyddu gymaint fel y daeth yr ystordy, neu'r rhan ohono oedd at wasanaeth yr eglwys, yn rhy gyfyng. Cododd awydd yn awr am gael capel. Drachefn ni ellir llai nag edmygu gwroldeb yr eglwys fechan: deuddeg ar hugain[1] o bobl gyffredin, tlodaidd eu hamgylchiadau, heb gymaint ag un gŵr o ddylanwad yn eu plith, yn byw yng nghanol estroniaid, wedi eu meddiannu gan y dymuniad aruchel o adeiladu tŷ teilwng i addoli Duw ynddo yn iaith eu tadau.

Wedi i'w dymuniad ddyfod yn hysbys i'r brodyr yng Nghymru, "amlygwyd cydymdeimlad neilltuol, a thosturi," tuag at yr eglwys fechan yn Liverpool, oedd mewn amgylchiadau mor wahanol i'r un eglwys arall a berthynai i'r Cyfundeb. Cyfeirid atynt mewn ymadroddion tyner iawn, fel " y Cymry tlodion ac amddifad," ac fel rhai y dylai eglwysi Cymru dosturio wrthynt.' Eu cefnogydd pennaf, y mae'n amlwg, oedd Mr. Charles, a diau ddarfod iddynt ymgynghori llawer ag ef cyn ymdaflu i anturiaeth mor fawr.

Trigai y rhan fwyaf o'r Cymry yn y blynyddoedd hynny, fel yr adroddwyd, yng nghymdogaeth Old Hall Street a Tithebarn Street, a phenderfynwyd codi'r capel yn yr un gymdogaeth. Prynwyd darn o dir yn yr heol a elwid, ac a elwir eto, Pall Mall. Rhedai allan o Tithebarn Street, bron yn union ar gyfer y fan lle safai, fel y tybir, yr hen ysgubor ddegwm (tithe barn), ar gongl Cheapside presennol. Nid oedd Tithebarn Street yr adeg honno ond heol gul a gwael, yn rhedeg igam-ogam i ben Marybone. Yn y rhan hon y trigai mwyafrif Pabyddion y dref, y rhai a roisant i'r fan yr enw nodweddiadol Marie bon, a lygrwyd yn ddiweddarach yn Marybone. Tai bychan, tlodaidd eu golwg, a safai ar ddwy ochr Tithebarn Street; mewn rhai mannau nid oedd yr heol ragor na phymtheg troedfedd o led. Yr adeg honno nid oedd ond un ochr i heol Pall Mall â thai wedi eu codi arni. Ar yr ochr ddwy-

  1. "Y Drysorfa," 1863, t.d. 418; a "Chofiant y Parch. Thomas Hughes, Liverpool," t.d. 10 a 23. Dywedir yn y Cofiant mai deuddeg ar hugain oedd rhif yr aelodau pan ddaeth Thomas Hughes i'r dref, yng ngwanwyn 1787.