Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

reiniol ceid meysydd agored; yno yr oedd y lle mwyaf poblogaidd i chwarae campau; ac oddiwrth y fwyaf poblogaidd o'r campau y cafodd yr heol ei henw: palla, pêl; malla (mallet), morthwyl; curo pêl drwy fodrwyau â morthwyl pren. Ychydig lathenni o'r fan a ddewisasid yn safle i'r capel, a bron yn union ar ei gyfer, yr oedd adeilad eang wedi ei godi ychydig flynyddoedd cyn hynny, gan "foneddigion" y dref, i ymladd ceiliogod. Rhoddodd yr adeilad ei enw i'r heol a saif ar y llecyn yn awr, Cockspur Street. Oddeutu'r adeg yr adeiladwyd y capel, fodd bynnag, penderfynodd yr awdurdodau gau y cockpit oherwydd y pethau llygredig a gyflawnid yno. Yn ddiweddarach defnyddiwyd yr adeilad yn addoldy gan enwad Seisnig.

Adeilad cwbl ddiaddurn ydoedd y capel cyntaf a godwyd gan y Cyfundeb yn Liverpool. O ran ffurf, ysgwâr ydoedd; mesurai un llath ar ddeg bob ffordd; ac yn ei ffrynt, rhyngddo â'r heol, yr oedd darn o dir, neu gowrt agored, oddeutu'r un fesur a'r adeilad. Yr oedd ei gynllunwyr, wrth drefnu fel hyn, a'u golwg yn ddiau ar y posibilrwydd o orfod ehangu y capel, yr hyn, fel y ceir gweled, y bu raid ei wneuthur fuan iawn. Adroddir ddarfod i Mr. Thomas Charles, tra'r adeilad yn cael ei godi, fyned yng nghwmni William Llwyd, i'w weled. Trwy ryw esgeulustra, yr oedd crack bychan mewn rhan o'r mur. Cythruddodd William Llwyd yn fawr, ac yn ei wylltineb trawodd yr adeiladydd, a hynny yngwydd Mr. Charles. "Beth y gwnaethoch fel yna, William bach?" ebe Mr. Charles, yn syn ac yn drallodus. Atebodd yntau, mewn llais digofus, "Ai meddwl yr ydych y gwna i oddef i dŷ fy Nuw gael cam?"[1]

Agorwyd y capel ar y Sulgwyn, 1787.[2] Nid oes wybodaeth pwy a wasanaethodd ar yr achlysur. Os bu agoriad ffurfiol arno, nid annaturiol ydyw meddwl mai'r gŵr a fu â'r rhan fwyaf blaenllaw yn y gwaith o'i sicrhau ac o dalu amdano, a

  1. Adroddir yr hanes mewn llythyr o eiddo Samuel Jones, a dywaid iddo ei glywed gan Capten Davies, un o hen flaenoriaid yr eglwys.
  2. Ai oherwydd hyn y cynhelir Cymanfa Liverpool ar hyd y blynyddoedd ar y Sulgwyn, pen-blwydd agoriad capel cyntaf y Cyfundeb yn y dref?