Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyflawnodd y gwasanaeth hwn hefyd,—y Parch. Thomas Charles. Y mae'n amlwg i'r amgylchiad dynnu cryn sylw yn y dref, oherwydd rhoddir cofnodiad ohono yn y cronicl o "brif ddigwyddiadau'r dref " a geir yn "Gore's Annals." Synnai'r Saeson yn ddirfawr fod "ychydig Gymry cyffredin, dynion wrth eu diwrnod gwaith," yn meddu'r gallu a'r ewyllys i godi'r fath adeilad, ac yn arbennig i'r fath bwrpas.

Yn y blynyddoedd hyn dangosid bywiogrwydd neilltuol yn y Cyfundeb ynglŷn ag adeiladu capeli. Hwyrfrydig ar y cyntaf a fu'r tadau gyda'r gwaith hwn. Aeth yn agos i hanner can mlynedd heibio er cychwyniad y Diwygiad Methodistaidd heb fod gan y Cyfundeb nemor o gapeli yng Ngogledd Cymru. Yn flaenorol i'r flwyddyn 1785,—dwy flynedd cyn agoriad capel cyntaf Liverpool,—nid oedd ragor na phedwar capel Methodistaidd yn holl Sir Feirionnydd; a thebig ydoedd yn Siroedd eraill y Gogledd. Dichon bod dau reswm dros arafwch y tadau ynglŷn â hyn. Un ydoedd eu sêl dros efengyleiddio'r wlad. Credent mai eu gwaith pennaf ydoedd pregethu Crist i'r bobl, ac ni allent, ynghanol eu teithiau maith a llafurus, roddi llawer o sylw i drefniadau allanol yr achos. Heblaw hynny, nid oedd eu perthynas â'r Eglwys Wladol wedi ei ddeffinio yn glir yr adeg yma. Mae'n amlwg na feddyliasant ar y cyntaf am ei gadael. Ni cheir ddarfod iddynt yn y blynyddoedd cyntaf alw eu hunain yn Gyfundeb" neu'n "Eglwys," eithr yn "Societies " neu'n "Gymdeithasau." Yr un modd ni elwid yr addoldai cyntaf wrth yr enw "capel " neu eglwys," ond yn hytrach "tŷ seiat," "tŷ cwrdd," "tŷ i ddibenion crefyddol." Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif newidiasai pethau yn fawr. Yr adeg honno gwelid yn glir beth a fyddai raid i'w perthynas â'r Eglwys Wladol fod. Erbyn hynny, drachefn, yr oedd nifer mawr o gynulleidfaoedd lluosog wedi eu ffurfio,—canlyniad y weinidogaeth rymus a brofasid, a chanlyniad yr Ysgolion Cylchynol â'r Ysgol Sabothol, er nad oedd yr Ysgol Sabothol eto ond yn ei mabandod. Ar gyfrif y pethau hyn bu ugain mlynedd olaf y ddeunawfed ganrif yn dymor o brysurdeb digyffelyb gydag adeiladu addoldai. Gan mai tlodion gan mwyaf ydoedd ymlynwyr y Methodistiaid yn y blynyddoedd hynny, aeth codi cynifer o gapeli