Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn faich trwm, ac yn wir, mewn rhai mannau, yn brofedigaeth. Daeth gwaredigaeth, fodd bynnag, mewn ffordd esmwyth ac ysgafn. Ar awgrym John Evans, y Bala, trefnwyd bod casgliad yn cael ei wneud drwy holl Ogledd Cymru o ddimai yn yr wythnos, neu chwe cheiniog a dimai yn y chwarter, gan bob aelod, tuag at glirio dyledion yr addoldai,—y casgliadau hyn i'w dwyn i'r Cymdeithasfaoedd Chwarterol a'u rhannu yno yn ôl yr angen. Ni pharhaodd y cynllun hwn yn hir; cymerai gwneuthur ymchwiliad i amgylchiadau pob eglwys fwy o amser nag y gallai'r Gymdeithasfa ei hebgor; a chan fod yr Achos yn ymeangu yn gyflym ym mhob Sir, barnwyd mai doeth oedd gollwng achos y capeli i arolygiad y brodyr yn eu gwlad eu hunain."[1] Oddiwrth yr ychydig Gofnodion prin sydd ar gael, gwelir i'r eglwys yn Liverpool dderbyn y symiau a ganlyn:[2]

Cymdeithasfa Cemaes, Rhagfyr 27 ain, 1787:
Talwyd at gapel Liverpool £29 0 0
Cymdeithasfa Rhosllanerchrugog, Ebrill 2il, 1788, casglwyd fel y canlyn:
Casgliadau a wnaed gan Mr. Charles, yn Siroedd Môn a Chaernarfon, at gapel Liverpool, a chan John Evans, yn Siroedd Dinbych a Fflint at yr un £55 0 0
Casglodd Mr. Charles, yn Sir Feirionydd, at gapel Liverpool £5 17 0
Casglodd Edward Watkin, yn Sir Drefaldwyn, at gapel Liverpool £6 2 6

Casgliadau Chwarterol:


Talwyd i Richard Roberts, Melin y Coed, yr arian a fenthyciwyd ganddo at gapel Liverpool £70 0 0
Llog am yr un £2 10 0
I Evan Davies, Liverpool, saer, at gapel Liverpool, £21 10 0

  1. "Methodistiaeth Cymru," cyf. i., t.d. 578.
  2. " Y Geiniogwerth," 1851.