Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymdeithasfa y Bala, Mehefin 18fed, 1788:
I Humphrey Lloyd, Adwy'r Clawdd, yr arian a roddwyd ganddo yn fenthyg at godi capel Liverpool £5 0 0
Gwaith gof at gapel Liverpool £3 14 10½
Cymdeithasfa Dolgelle, Rhagfyr 31ain, 1788:
Talwyd i glirio Evan Davies, : £11 7 10
Cymdeithasfa Rhuthyn, Rhagfyr 31ain, 1789
Casglwyd fel y canlyn
Liverpool £1 4 4
Talwyd i George Gittins, Rhosllanerchrugog, at gapel Liverpool £10 0 0
Cymdeithasfa Machynlleth, Ebrill 8fed, 1790:
Talwyd i George Gittins at gapel Liverpool £40 0 0
Cymdeithasfa Dinbych, Rhagfyr 29ain, 1791:
Talwyd i Peter Williams o'r Berthen yn Sir Fflint, sef arian a fenthyciwyd ganddo at gapel Liverpool £40 0 0
Llog y swm uchod £2 0 0

Gwna'r symiau hyn gyfanswm o £303/6/6. ½ Ni ellir ei olygu yn gyfrif cyflawn. Gwyddis bod Mr. Charles yn arbennig, ac eraill, wedi teithio llawer drwy Siroedd Cymru i ddeisyf help yr eglwysi yno i'w chwaer eglwys yn Lloegr, a chydnabyddir bod swm nid llai na £400 wedi ei dderbyn o Gymru tuag at godi addoldy cyntaf y Methodistiaid yn y dref.[1]

Yn eu sêl a'u hawydd i gynorthwyo'r gwaith ac arbed pob traul, rhoddai llawer o'r aelodau wasanaeth yn rhad, wedi gorffen eu diwrnod gwaith, drwy helpu i gario'r defnyddiau angenrheidiol tuag at godi'r adeilad. Un hwyrnos aeth ped- war o'r brodyr i gario coed o'r felin lle llifid hwy. Fel y nesaent at y capel, pob un â'i faich ar ei ysgwydd, cyhuddwyd

  1. "Cofiant John Elias," gan J. Roberts a J. Jones, Liverpool, t.d. 224. Dywedir ar yr un ddalen bod traul ei adeiladu ar y cyntaf, a'i helaethu yn 1799, a'i ail-adeiladu yn 1816, oddeutu £2,900. Dywaid Pedr Fardd mai traul adeiladu y capel y tro cyntaf, ynghyd â rhoddi dwy galeri arno ddwy flynedd yn ddiweddarach, oedd £600. Ychwanega "na dderbyniodd y Trefnyddion Calfinaidd yn Llynlleifiad ddim cynorthwy o arian oddiwrth eu brodyr yng Nghymru, ar unrhyw bryd, tuag at adeiladu yr un o'u capelau ond yn unig y waith gyntaf, pan y cyfranasant oddeutu £400 at adeiladu y capel bychan cyntaf yn Pall Mall."