Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod bellach ddarpariaeth grefyddol ar eu cyfer; bu llawer yn hwyrfrydig i adael eu gwlad hyd oni sicrhawyd hynny. Mewn canlyniad cynyddodd yr eglwys a'r gynulleidfa yn gyflym; ac i gyfarfod yr angen rhoddwyd dwy galeri ar y capel, un bob ochr.

Ymysg y Cymry a ddaeth i'r dref yn y flwyddyn a nodwyd, 1789, yr oedd bachgen ieuanc o Eifionydd, Daniel Jones, mab i'r Hybarch Robert Jones, Rhoslan. Nid oedd Daniel Jones ar y pryd ond pymtheg oed. Ceir adrodd ei hanes yn fanylach yn y bennod nesaf. Digon yw dweud yn awr iddo lwyddo yn gyflym o ran ei amgylchiadau tymhorol, a daeth, tra eto yn ieuanc, yn berchen cyfoeth mawr. Derbyniasai addysg well na'r cyffredin o'i gyfoedion; a nodweddid ef gan grefyddolder ac aeddfedrwydd profiad ysbrydol oedd yn hynod mewn gŵr cyn ieuenged ag ef. Daeth yn fuan, er mor ieuanc, yn un o arweinwyr, os nad yn brif arweinydd, yr eglwys yn Pall Mall, ac ni warafunai neb i'r llanc ei safle. Yn y flwyddyn 1796, pan yn ddwy ar hugain oed, dechreuodd bregethu, gan barhau i ddilyn ymlaen gyda'i fasnach. Am gyfnod o chwarter canrif neu ragor, nid oedd neb a roddodd gymaint gwasanaeth i Fethodistiaeth Liverpool ag ef. Gofidus yw dywedyd mai helbulus nodedig a fu ei flynyddoedd olaf. Gwnawn y cyfeiriadau hyn ato yn awr am mai yn ei lythyrau ef at ei dad y cawn. bron yr holl wybodaeth a feddwn am sefyllfa yr Achos yn Liverpool am rai blynyddoedd o'r flwyddyn 1792 ymlaen.

Anhawster pennaf yr eglwys yn y blynyddoedd hyn ydoedd sicrhau gweinidogaeth gyson. Er bod Thomas Edwards a Thomas Hughes yn cael eu cydnabod fel pregethwyr, dynion wrth eu diwrnod gwaith oeddynt, heb hamdden i lafurio ar gyfer y pulpud, ac, fel yr ymddengys, am rai blynyddoedd, heb lawer o hyder ynddynt eu hunain. Dywedir am Thomas Hughes ei fod ar y cyntaf mor ofnus fel nad esgynnai i'r pulpud, eithr dywedai ychydig eiriau oddiar ei risiau, ac ar brydiau gomeddai ddywedyd dim; ac wedi i'r ddau fagu mwy o wroldeb, byddent yn fynych yn absennol o'r dref yn gwasanaethu eglwysi Siroedd Fflint a Dinbych, ac eglwysi'r Gororau. Gwelwn yn ei lythyrau fod Daniel Jones yn erfyn yn fynych ar ei dad i sicrhau gwasanaeth "cynifer ag a fedrai "o'r gweini-