Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dogion a gyfarfuai yn y Sasiynau: "Byddwch daer ar bregethwyr ddyfod yma o Association Pwllheli, a dewch chwithau yn un ohonynt gynta gallwch." Aeth Daniel Jones ei hun i Sasiwn Pwllheli yn 1794 i geisio "llefarwyr i ddyfod i Liverpool. Diolch i'r Arglwydd, cawsom o gwmpas dau ar bymtheg o gyhoeddiadau." Cyfeiria mewn un llythyr at fwriad ei rieni i anfon ei chwaer, Mary, i Liverpool. Anghefnogai ef y bwriad yn gryf am y rheswm" na chai glywed pregethau yma, dim ond un neu ddwy mewn pythefnos neu dair wythnos, ac ambell wythnos dim Society o gwbl."

Pwy oedd y pregethwyr a wasanaethai yr eglwys yn y blynyddoedd hyn, ni wyddom i sicrwydd. Deuai Mr. Charles i'r dref yn bur gyson, fel y ceir adrodd yn fanylach; a hawdd gweld mor ddwfn ydoedd yn serch yr eglwys y bu iddo ran mor amlwg yn ei chychwyniad. Am un ymweliad o'i eiddo, Sasiwn 1795, dywaid Daniel Jones: "Yr oedd Mr. Charles yn ogoneddus." Yn nechrau 1796 dywaid drachefn: "Ni wn pa fodd y bydd yn yr Association yma (Cymanfa'r Sulgwyn); mae'r bobl yn gruddfan ac yn ocheneidio gan ddywedyd, 'O na ddeuai Charles bach anwyl yma!'" Nid oes sicrwydd am ymweliad cyntaf John Elias â Chymry Liverpool, ond dywaid ef ei hun yn ei Hunangofiant ddarfod ei dderbyn yn aelod o Gyfarfod Misol Sir Gaernarfon ddydd Nadolig, 1794, ac iddo ymhen ychydig amser ar ôl hynny " gael "caniatad i roddi cyhoeddiadau trwy amrywiol Siroedd Gwynedd, ac i Liverpool." Y tebygrwydd gan hynny ydyw iddo ddyfod i Liverpool y waith gyntaf rywbryd yng nghorff y flwyddyn 1795 neu 1796, ac anfynych yr ai blwyddyn heibio heb un ymweliad neu ragor o'i eiddo.[1] Ymysg pregethwyr eraill a enwir, naill ai wedi bod neu yn cael eu disgwyl, ceir enwau John Evans a Dafydd Cadwaladr, y Bala; John Roberts, Llangwm (Llan- llyfni); Evan Richardson, Caernarfon; Thomas Jones, Caerwys (Dinbych); Ismael Jones, Llandinam, a William Evans, Aberffraw. Wedi i Daniel Jones ei hun ddechrau

  1. "Coftant y Parch. J. Elias," t.d. 66:—"Byddai Mr. Elias yng nghyfarfodydd blynyddol Liverpool, y Sulgwyn, yn gyson; ac yn yr yspaid maith o dair neu bedair blynedd a deugain, ni welwyd mohono yn absenol o'r cyfryw gyfarfodydd, oddigerth ryw bedwar neu bump o weithiau."