Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethu, disgynnai baich gweinidogaeth y Saboth arno ef yn bur fynych. Mewn mwy nag un llythyr oddeutu'r cyfnod yma, dywaid eiriau i'r perwyl a ganlyn: "yr oeddym heb bregethwr y Sul diwaetha, neu, unwaith, yr ydym heb bregethwr ers dau Saboth neu dri, a neb ond poor Dan i geisio dweud gair." Mewn llythyr arall, diweddarach na'r rhain, dywaid: "Heb bregethwr y Saboth diwaetha eto, a chyfar- fod mawr Gweinidogion y Dissenters, yn agos i ddeuddeg ohonynt yn y dref, ac ni adawai'r bobl yma iddynt ddyfod i'n cappel ni; diwrnod anghysurus iawn i'm teimlad i."

Ond er pob anfantais a ddioddefai yr eglwys, ysgrifennai Daniel Jones yn galonnog am lwyddiant yr Achos ac am ffyddlondeb yr aelodau. Rywbryd yn nechrau 1796 dywaid: "Pan oedd T. Hughes ynghymru a T. Edwards yn Sir Ddinbych, buom un Sul yma yn amddifaid, ceisio ymroddi i gynnal cyfarfodydd gweddi. Torrodd yn ffeind yn y bore; parhaodd yn ogoneddus trwy'r dydd, nes y bu gorfoleddu a neidio hyd wedi naw o'r gloch nos Sul. Peth rhyfedd yn Liverpool!" Drachefn, yn Hydref, 1797, dywaid: "Y mae'r eglwysi yma ac ym Manchester yn parhau yn llewyrchus. Tybiwn bod y Brodyr ym Manchester yng ngwres eu cariad cyntaf-ni chefais fynd i'm gwely hyd un ar gloch y bore y tro diweddaf yr oeddwn yno yn eu Society, gan fel yr oeddynt yn dal i ganu. Gobeithiaf y bydd ganddynt gapel cyn hir.'"

Blynyddoedd anodd a phryderus, mewn byd ac eglwys, oedd y blynyddoedd hyn,-blynyddoedd y rhyfel maith rhwng Lloegr a Ffrainc. Yr oedd masnach yn isel mewn canlyniad, a cheir bod llawer o'r Cymry mewn amgylchiadau cyfyng oherwydd diffyg gwaith. Codasai prisiau bwydydd yn uchel. Crybwyllir bod pris tê yn Liverpool yr adeg honno yn bedwar swllt ar ddeg y pwys; siwgr, swllt neu bymtheg ceiniog; halen, pum ceiniog, etc. Heblaw hyn, aflonyddid ar y dref gan ymweliadau'r press gang, ac ofnai'r dynion fyned allan gyda'r hwyr i'r cyfarfodydd crefyddol. "Nos Fercher diweddaf," dywaid Daniel Jones, wrth ysgrifennu ym mis Tachwedd, 1793, "cafodd rhai o'r aelodau ddiangfa gyfyng wrth ddyfod o'r Seiat; llwyddasant i ddianc i ryw dŷ, a chael a chael i gau y drws a'r gang ar eu sodlau! Y fath achos sydd gan