Gymru i ddiolch i Dduw am y rhyddid sydd ganddi i fyned i foddion gras heb ofni gorfod myned i faes y rhyfel nac i long Man of War." Y mae'n amlwg bod pryder ym meddwl rhai o'r pregethwyr a ddeuent i wasanaethu i'r dref ar yr adeg derfysglyd yma, oherwydd dywaid Daniel Jones: "Nid oes raid i John Roberts, Llanllyfni, na John Edwards (? Tre'r Dryw, Môn) ofni dyfod yma ond iddynt ddyfod yn ystod y dydd, cyn iddi nosi, a chânt lety wrth ymyl y capel yn nhy Thomas Hughes. "Neithiwr," ysgrifennai drachefn, y bu byd dychrynllyd ymhob cwr o'r dref, pressio ofnadwy, llusgo ugeiniau o bobl i'r rhyfel, bodd neu anfodd. Rhyfedd fel y mae gwragedd yn wylo, a mamau a chwiorydd yn llefain: 'O fy ngwr!' medd un; 'O fy mab, fy mab!' medd un arall; 'Ofy mrawd!' medd y llall. Nid oes ond y swn a'r crio drwy'r dref o ben bwy gilydd. . . . Gwelais gang yn llusgo un dyn, fel gwr boneddig o ran ei wisgiad. Nacaodd un Cadben llestr o Belfast ddyfod gyda'r gang; yn Strand Street yr oedd. Darfu iddynt hwythau ei saethu yn y funyd a'i drywanu a chleddyf. Yno mae ei gelain heddyw yn gorwedd yn ddrych i bawb sydd yn myned heibio i'w weled."[1]
Digwyddiad o ddiddordeb i gylch eangach na Methodistiaid Liverpool ydoedd gwaith Daniel Jones yn cyhoeddi, yn 1795, ar ran ei dad, yr argraffiad cyntaf o'r llyfr bychan" Grawnsypiau Canaan, neu Gasgliad o Hymnau; gan mwyaf o waith y diweddar Barchedig Mr. William Williams, sef Pigion o'i holl lyfrau cynghaneddol ef, ac o rhai Awdwyr eraill." Argraff-
- ↑ Ynglŷn â hyn gellir adrodd y bu cynnwrf mawr ymysg Cymry'r dref, a'r Saeson hefyd, pan gyrhaeddodd y newydd am laniad y Ffrancod yn Sir Benfro, Chwefror 22ain, 1797. Ni chollodd yr hanes ddim ar ei ffordd i Liverpool. Yr oedd yr ychydig gannoedd o Ffrancod wedi cynyddu yn "fyddin" o "filoedd," yn prysuro ar draws y wlad "am Liverpool,"-i lwyr ddinistrio'r dref lle'r adeiledid y llongau rhyfel, a'r porthladd yr oedd y privateers yn gwibio i mewn ac allan ohono, gan wneud y fath ddifrod ar longau'r gelyn. Ffodd hanner y trigolion am eu heinioes i'r wlad, filltiroedd y tuallan i'r dref. "Yr oedd troleidiau ar ol troleidiau o eiddo i'w gweled yn myned i fyny Old Hall Street, Prescot Road, Mount Pleasant, Brownlow Hill, ac yn eu canlyn wragedd a phlant dychrynedig yn wylo, ac ofn yn ddelwedig ar eu hwynebpryd. Yr oedd yr holl ffyrdd y tuallan i'r dref fel ffair." Codwyd amddiffynfeydd ar y Pier Head a glannau'r afon, gyda magnelau a gwarchodlu, a phob darpariaeth rhyfel. Adroddir nad oedd neb a gymerai ran fwy egniol yn y paratoadau hyn na'r Cymry; "teimlent yn ddigofus oherwydd i'r gelyn osod ei droed ar ddaear Cymru, a theimlent rwymau i amddiffyn anrhydedd eu gwlad."