wyd y llyfr gan" J. Gore, Liverpool," ac mewn llythyr dyddiedig Mai 17eg, 1795, hysbysa Daniel Jones ei dad iddo drefnu gyda'r Argraffwr am bedair mil o gopiau am £75/12/0 yn gompleat." Cwynid, ac nid heb sail, fod Robert Jones "wedi arferyd gormod hyfdra" gydag emynau Pantycelyn, trwy wneuthur amryw gyfnewidiadau ynddynt. Perodd hynny dramgwydd mawr i Fethodistiaid y De, ac ni wnaed unrhyw ddefnydd o'r llyfr ganddynt hwy. Diddorol nodedig ydyw llythyr y mab ieuanc,-nid oedd Daniel Jones ar y pryd ond un ar hugain oed, at ei dad; beirniadai rai o'r cyfnewidiadau yn llym, a chyda medr neilltuol, a sicr yw mai da a fuasai i'w dad fod wedi gwrando arno. "Mae rhai yn ei gyfrif," dywedai am y llyfr, "fel Beibl Pedr ab Gwilym, oherwydd fod yr ymyrrwr gan Robert ab Ioan wedi rhyfygu altro geiriau'r hen beraidd ganiedydd a'r Parchedig Mr. W. Williams . . . mae altro hymnau'r hen Williams yr un funud ac oedd i Peter Williams altro'r Salmau cân.... Er cystal gennyf Robert ab loan mewn ychydig o fannau, gwell gennyf W.W.!" Y llyfr hwn, am yn agos i hanner can mlynedd, oedd yr unig Lyfr Hymnau a arferid yn eglwysi Liverpool a Gogledd Cymru, hyd yr amser yr ymddangosodd "Salmydd Cymreig" y Parch. Roger Edwards yn 1840, o dan nawdd a chymeradwyaeth y Gymdeithasfa.1 [1]
Yn gynnar ar y flwyddyn 1797 (Mawrth 31ain), cawn Daniel Jones yn ysgrifennu at ei dad, a hefyd at Mr. Thomas Charles, ar ddymuniad y brodyr ymgynulledig yn y cappel neithiwr. ... Gweled yr oeddym angenrheidrwydd o helaethu y cappel; mae'r Society wedi cynyddu i 120 neu ragor, a'r gwrandawyr yn fwy prydnawn Sabothau na all y capel yn gyfleus gynnal, a chan fod cynifer o filoedd o'n cenedl y Cymry yn y dref,
- ↑ Nid hwn oedd yr unig lyfr a ddygodd Daniel Jones drwy'r Wasg yn Liverpool yn enw ei dad. Y mae'n amlwg na fu ei brofiad gyda'r llyfr-werthwyr yn un hapus: Am y gwerthwyr llyfrau nid oes gennyf ond dyweyd amdanynt fel y dywedodd un hen Bregethwr y Wesleaid yn Liverpool am lawer o'i frodyr a'i chwiorydd crefyddol,—If the devil had them by dozens on his back, nobody could cry Catch thief!' after him, as he only took his own!" Ail argraffwyd y "Grawnsypiau" yn 1805-6 gan R. Saunderson, y Bala, yn cynnwys ychwanegiadau; a thrachefn yng Ngwrecsam yn 1812; yn Liverpool 1816 ("Argraffedig gan John Jones yn argraffdy Nevetts. Dros Daniel Jones"); yn y Bala yn 1821; ac yng Nghaernarfon yn 1826, a thrachefn yn 1831.