Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sicr ydym pe byddai le y deuai llawer mwy i wrando nag sydd. Am hynny fe benderfynwyd yn y dywededig gyfarfod ddanfon atoch chwi a Mr. Charles . . . . chwi a'r rhai sydd wedi eu nodi yn Drustees. A ydych chwi yn foddlon?" Am ryw reswm ni symudwyd ymlaen gyda hyn hyd rywbryd yn 1799, pryd yr helaethwyd y capel am yr ail waith, drwy gymryd i mewn yr holl gowrt oedd o'i flaen, a helaethu y galleries hefyd. Swm y draul ydoedd £600. Daliai y capel yn awr fwy na dwywaith gymaint ag o'r blaen. Ar y 25ain o Hydref, 1799, cawn Daniel Jones yn ysgrifennu drachefn at ei dad: "Mae'r capel bron wedi ei orffen; disgwyliwn Charles ac eraill cyn pen hir."

Ni wyddom ddyddiad yr ail-agoriad, ac nid oes gennym gofnod ychwaith o ymweliad Mr. Charles â'r dref yn 1799. Os daeth, rhaid ei fod wedi ymweled â Liverpool ddwywaith yn agos i'w gilydd, oherwydd gwelir ei fod yn pregethu yng Nghymanfa'r Sulgwyn y flwyddyn ddilynol. Mewn hen lyfr yn cynnwys cofnodion pregethau, cawsom y manylion a ganlyn am y Gymanfa honno.[1] Teimlwn bod diddordeb neilltuol yn perthyn iddynt, oherwydd mai y rhain ydyw'r manylion cyntaf sydd heddiw ar gael o'r un o Sasiynau Liverpool. Wele enwau'r pregethwyr, a'u testunau:—

Saboth y Sulgwyn, Mehefin 1af, 1800:
Richard Lloyd, Biwmares, Mat. 24. 4.
Thomas Charles, Bala, Phil. 4. 11.
John Griffith Ellis, Nefyn, Diar. 8. 4.
Thomas Jones, Wyddgrug, Mat. 22. 42.
Richard Lloyd, Biwmares, Salm 84. 11.
Thomas Charles, Bala, Salm 30. 1.

Llun y Sulgwyn, Mehefin 2il:
Richard Lloyd, Ezec. 34. 26.
Thomas Jones, Phil. 4. 6.


  1. "Belmont MS. No. 8," Llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor. Nid oes sicrwydd pwy a ysgrifennodd y nodiadau. Ceir cryn debygrwydd yn y llawysgrif i eiddo Daniel Jones. Cyflwynwyd yr ysgrifau i'r Llyfrgell gan y diweddar Syr Henry Lewis, a'u cafodd ymysg papurau y diweddar Barch. Roger Edwards, yr Wyddgrug.