Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dengys yr un cofnodwr i "George Griffiths " bregethu bedair gwaith yng nghapel Pall Mall yr wythnos ar ôl y Sasiwn: Mehefin 10fed, 1800; 1 Cor. 2. 2; Mehefin 12fed, 1 Cor. 2. 12; Mehefin 13eg, Iago 1. 22; Mehefin 15fed (Saboth), Esa. 28. 29. Credwn mai George Griffiths, Bwlchygroes, Sir Benfro, oedd y gŵr hwn,-un o bregethwyr mwyaf poblog- aidd ei ddydd. Anfynych yr ymwelai â'r Gogledd, oherwydd ei wendid corfforol. Gŵr bychan, eiddil ydoedd, a chrwbi ar ei gefn. Meddai ar lais clir a threiddgar. Digwyddodd iddo ef a Robert Roberts, Clynnog,-y ddau fel ei gilydd o ran eiddil- wch, ac o ran anffurfiad eu cyrff-fod yn pregethu yn Sasiwn y Bala y flwyddyn flaenorol, 1799, a chafodd y ddau oedfeuon ysgubol, yr hyn a berodd i John Jones, Edeyrn, weiddi: Gwyn fyd na fai crwbi ar ein cefnau ni i gyd!"

Ymhen ychydig fisoedd wedi ail-agoriad y capel digwyddodd amgylchiad a ymddengys, o edrych yn ôl arno, yn ddigrifol, ond ar y pryd a achosodd fraw dirfawr, ac enbydrwydd einioes i ugeiniau yn y gynulleidfa. Prynhawn Saboth, Tachwedd 23ain, 1800, ydoedd, a phregethai John Roberts, Llangwm. Yr oedd y capel wedi ei orlenwi, ar y llawr ac ar y llofft. Tua chanol y bregeth, a'r pregethwr a'r gwrandawyr yn gynnes eu teimladau, clywyd sŵn dieithriol uwchben, ac yn ddisymwth disgynnodd telpyn o blaster o'r nenfwd (ceiling) ar ben y bobl a eisteddent yng nghanol y llawr. Yr eiliad nesaf wele esgid yn disgyn, a'r un foment wele goes ddu yn ymddangos, a chorff creadur carpiog yn hongian ac yn gwingo ac yn cicio uwchben, gan ysgrechian â'i holl nerth. Aeth yn gynnwrf ac anhrefn annisgrifiadwy drwy'r gynulleidfa. Bloeddiai rhai, ysgrechiai eraill, llewygai eraill drachefn; a rhuthrodd corff y gynulleidfa mewn braw am y drws,-pawb yn ceisio dianc am ei einioes. Gweiddai rhai mai'r Ffrancod oedd wedi dyfod; eraill, yn gweled y goes ddu, mai'r Diafol a ddaethai i'w poenydio! Ceisiodd y pregethwr ei orau i'w tawelu, ac wedi llwyr ddiffygio eisteddodd yn sydyn yn y pulpud, gan blygu a rhoi ei ben rhwng ei ddwylo. Ar hynny wele waedd fod y pregethwr annwyl wedi ei daro yn ei ben a'i ladd! Os drwg cynt, gwaeth o lawer wedyn,—rhai yn gweiddi un peth, eraill yn llefain peth arall, a phawb am y gorau ac ar draws ei