Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gilydd yn ceisio dianc allan. Yn ei fraw neidiodd un dyn drwy ffenestr y galeri a wynebai Chapel Yard, a chafodd ei hun hyd ei geseiliau mewn pwll aflan! Clwyfwyd nifer mawr; rhwygwyd dilladau yn yfflon, a thorrodd amryw eu haelodau; ond yn ffodus ni laddwyd neb.

Achos yr holl helynt ydoedd hyn: Ymhen y grisiau a ar- weiniai i'r galeri, yr oedd drws bychan wedi ei osod yn y nen- fwd, er myned i mewn i'r groglofft ac at y tô. Trwy'r drws hwn aethai bachgennyn bychan ysgubwr simneiau. (Cofir mai'r arfer y blynyddoedd hynny oedd anfon bechgyn bychan i fyny'r simneiau i'w glanhau). Paham y dringodd i'r fath le, ai i gysgu, neu i ddianc i le diogel, neu o ran cywreinrwydd i glywed y gwasanaeth, ni wyddis, canys diangodd yntau am ei einioes! Fodd bynnag, wrth gerdded yn y tywyllwch aeth ei droed rhwng y distiau, a thrwy'r ceiling, gyda'r canlyniadau brawychus a adroddwyd![1]

Ni feddwn ar lawer o wybodaeth am arweinwyr yr eglwys yn y blynyddoedd hyn heblaw y gwŷr a nodwyd, Thomas Edwards, Thomas Hughes, a Daniel Jones; ac amhosibl dywedyd i sicrwydd pa bryd y dewiswyd blaenoriaid cyntaf yr eglwys, os bu dewis arnynt yn yr ystyr a roddir heddiw i'r gair. Cydnabyddid "tad" yr achos, William Llwyd, yn flaenor o'r cychwyn; ond ni chyfarfuasom ag unrhyw gyfeiriad ato ynglŷn â'r eglwys yn Pall Mall. Diamau iddo gilio o'r neilltu, gan deimlo bod dynion medrusach nag ef yn awr yn yr eglwys i'w harwain. Ymddengys hefyd y byddai'r Capten Owen William Morgan o Fôn, at yr hwn y cyfeiriwyd yn y bennod flaenorol, yn arfer a chymryd ei le fel blaenor pan fyddai ar ymweliad â'r dref; deuai i Liverpool yn bur gyson, gan aros amryw ddyddiau ac wythnosau ar ei dro. Rhydd Samuel Jones restr o holl flaenoriaid y dref o'r dechrau hyd 1863, yn y Drysorfa am y flwyddyn honno; nid yw y rhestr yn hollol gyflawn, fodd bynnag, ac nid yw yr enwau yn ddieithriad wedi eu gosod yn eu trefn amseryddol; ni nodir

  1. Cyfeiria Daniel Jones at yr amgylchiad mewn llythyr at ei dad. Edrydd Cor- fannydd yr hanes hefyd, a dywedir i'r diweddar Dr. John Hughes ei adrodd mewn afiaeth, yn y cyfarfod olaf a gynhaliwyd yng nghapel Pall Mall, cyn symud i Crosshall Street.