Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychwaith pa bryd y dewiswyd hwy, nac i ba eglwysi y perthynent. Y pedwar enw cyntaf ar ei restr ef, ar ôl William Llwyd ydyw Lewis Hughes, John Davies, William Evans a Lewis Jones. Pa bryd, neu ym mha fodd, y dewiswyd y brodyr hyn nid oes sicrwydd. Dechreuasai Mr. Charles, yn fuan wedi iddo ymuno â'r Corff, gymell yr eglwysi i "ddewis" eu swyddogion. Yn flaenorol i hynny "y dynion a alwent am bregethu i'w tai" a weithredent gan mwyaf fel arweinwyr. Gwrthdystiai Mr. Charles yn erbyn yr arfer hon, oherwydd bod y Testament Newydd, meddai, yn dysgu fod gan yr eglwysi lais i fod yn newisiad eu swyddogion; . . . mai nid swyddogion priodol oedd neb ond a ddewisid. . . . Gallesid disgwyl gan hynny y buasai Mr. Charles, a ddeuai mor fynych i Liverpool, ac a deimlai gymaint diddordeb yn yr eglwys, wedi ei hargymell i weithredu yn unol â'r egwyddor hon yn ddioed. Mewn rhestr a baratôdd Mr. David Roberts, Hope Street, dywedir ddarfod dewis Lewis Hughes a John Davies "tua 1790," a William Evans yn 1793. Mewn ysgrif goffa gan "J.J., Liverpool" (John Jones, Castle Street, dybygir) am Lewis Jones, a fu farw yn Rhagfyr, 1830, dywedir iddo fod yn "Henuriad ffyddlon yn yr eglwys yn Liverpool dros ystod pymtheng mlynedd ar hugain," a chyfeirir ato ef a William Evans, a fuasai farw ddeufis o'i flaen, fel y ddau flaenor hynaf."[1] A derbyn yr hyn a ddywaid "J.J." fel yn gywir, gwelir mai yn y flwyddyn 1795 y galwyd Lewis Jones i'r swydd.

Parhai y llanw Cymreig i godi flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ym mis Tachwedd, 1793, rhoddodd Esgob Caer (perthynai Liverpool yn y blynyddoedd hynny i Esgobaeth Caer)- "awdurdodiad " i gynnal gwasanaeth Cymraeg ar nos Saboth yn eglwys St. Paul.[2] Yr oedd yn y dref ddau o leiaf o glerigwyr

  1. "Y Drysorfa," 1831, t.d. 59. Yr ystyr mae'n ddiau ydyw nid y ddau flaenor a ddewiswyd gyntaf, ond y ddau hynaf o'r rhai oedd y pryd hwnnw yn y swydd. Buasai oedd John Davies farw dros flwyddyn o flaen Lewis Jones a William Evans, ac Lewis Hughes hefyd wedi marw, er na wyddom adeg ei farwolaeth. Dywaid "J.J.": "Nid oes ond ychydig o aelodau yn eglwys Liverpool ac oedd yno 25 mlynedd yn ol; ac nid oes yr un swyddog."
  2. "Gore's Annals."