Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymreig,—y Parch. Lewis Pugh, yr hwn, yn ôl Directory 1790, oedd gurad eglwys St. Ann, ac a breswyliai yn yr "Academy," 16 Christian Street, Everton Road; a'r Parch. John Davies, curad eglwys St. Paul, a'r hwn a drigai yn 28 St. Paul's Square. Cynhelid gwasanaeth Cymraeg yn achlysurol hefyd yn eglwys St. Nicholas ar nos Saboth. Y Parch. Lewis Pugh a arferai ofalu am y gwasanaeth yn y ddau le. Dywedid y byddai eglwys St. Paul "yn orlawn gan Gymry," a bod yno hefyd gôr lluosog, ac offer cerdd (orchestra) i gynorthwyo,—y bassoon, y clarionet, a'r flute. Arweinydd y gân oedd un "Edward Jones y saer," ac ac ef a chwareuai y bassoon. Ef, meddir, oedd yr unig un o Gymry'r ddinas yr adeg honno a fedrai ganu wrth yr Hen Nodiant, neu'r "traed brain" fel y'i gelwid; yn wir dywedid nad oedd ddwsin yng Nghymru i gyd a fedrai ddarllen yr Hen Nodiant! Disgrifir Lewis Pugh fel "hen Gymro rhadlon, boneddwr i'r dim, ac yn hoff o'i genedl." Ymwelai â'r Cymry yn gyson, ac yr oedd yn dra phoblogaidd. Yn ôl Cofnodion y ddinas gwelir bod Corfforaeth Liverpool yn talu iddo £60 y flwyddyn fel "cenhadwr" (gelwir ef unwaith yn "Welsh Lecturer ") ymysg y Cymry, a swm pellach am weinyddu ym mhriodasau ac angladdau y Cymry. Ef, bron yn ddieithriad, o 1793 hyd ei farw yn 1813, a weinyddai ar y cyfryw amgylchiadau; ni chyfrifid priodas yn gyfreithlon y blynyddoedd hynny oni weinyddid hi yn yr Eglwys Sefydledig. Cafodd Mr. Pugh ddihangfa gyfyng pan gwympodd clochdy eglwys St. Nicholas. Digwyddodd hynny fore Saboth, Chwefror 1leg, 1810. Ychydig funudau cyn amser dechrau'r gwasanaeth, cerddai plant Ysgol Moorfields (Charity School) i mewn i'r eglwys, a Mr. Pugh yn sefyll ar riniog y drws yn ei wen-wisg yn barod i'w dilyn. Yn ddirybudd, tra'r clychau'n canu, syrthiodd y clochdy a'r tŵr. Lladdwyd pedwar ar hugain o'r plant, a thri o bobl mewn oed. Clywyd sŵn y cwymp bellter mawr, a chan mai Cymry yn bennaf a drigai yn y gym-