Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dogaeth, hwy oedd y cyntaf i redeg i'r fan i gynorthwyo'r dioddefwyr.

Heblaw y trefniad a wnaed gan yr Eglwys Sefydledig i gynnal gwasanaeth Cymraeg, dechreuodd yr enwadau eraill, oddeutu'r blynyddoedd hyn, wneuthur trefniadau ar gyfer eu haelodau. Dechreuodd yr Annibynwyr gynnal cyfarfodydd gweddi mewn tŷ annedd—tŷ un Thomas Rees, Cavendish Street, yn y flwyddyn 1800. Daethai nifer o Gymry o gymdogaeth Llanbrynmair i'r dref gyda'r bwriad o ymfudo i'r America. Ar ôl bod rai dyddiau ar y môr, cafwyd bod y llong yn gollwng dŵr, ac wedi cryn enbydrwydd, dychwelasant i'r porthladd. Ail anturiodd rhai i'r fordaith, ond arhosodd y gweddill yn Liverpool. Hwy a fu'n offerynau i ddechrau yr Achos Annibynnol Cymreig yn y dref. Sefydlwyd yr eglwys gyntaf yn 1801, mewn ystordy yn Beckwith Street, allan o Park Lane. Yr un flwyddyn y dechreuwyd yn ffurfiol yr Achos Wesleaidd Cymreig, trwy gynnal cyfarfodydd gweddi mewn ystafell yn Midgehall Street, allan o Vauxhall Road. Dechreuasai nifer o Fedyddwyr Cymreig gynnal cyfarfodydd gweddi mewn tai annedd oddeutu'r flwyddyn 1795, ond ni chynhaliwyd hwy onid yn achlysurol. Ffurfiwyd yr eglwys gyntaf oddeutu 1803.

Erbyn hyn yr oedd y dref yn cynyddu yn gyflym i gyfeiriad y de, a nifer o'r Cymry wedi ymsefydlu yn y rhan honno. Dechreuasant cyn hir deimlo angen am rywle nes i gynnal gwasanaeth crefyddol na chapel Pall Mall. Rywbryd oddeutu'r flwyddyn 1798 dechreuwyd cynnal cyfarfodydd gweddi mewn tai annedd, ac yna mewn ystafell ardrethol; ac o'r symudiad yma y tarddodd, yn 1806, eglwys Bedford Street, yr adroddir ei hanes mewn pennod ddilynol. Drwy'r symudiad hwn collodd eglwys Pall Mall nifer o'i haelodau, a dau o'i blaenoriaid, John Davies a Lewis Jones.

Oddeutu'r blynyddoedd yma yr oedd y Cyfundeb ynghanol y cynnwrf a achlysurwyd gan "Ddadl yr Ordeiniad." Yr oedd y mater hwn o'r pwys mwyaf i'r eglwys yn Liverpool, oherwydd ar gyfrif ei safle neilltuedig, heblaw prinder pregethiad cyson o'r Gair, yr oedd mwy na hynny o brinder gweinyddiad yr Ordinhadau. Yr adeg honno nid oedd drwy