Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

holl Ogledd Cymru ond tri offeiriad a ymunasant â'r Methodistiaid,-y Parchn. Thomas Charles a Simon Lloyd o'r Bala, a'r Parch. William Lloyd o Gaernarfon. Yr oedd pethau ryw gymaint yn well yn y De, oherwydd ceid yno ragor o wŷr urddedig. Ymhob rhan o'r wlad, yn y De a'r Gogledd, ac erbyn hyn yn nhrefydd Lloegr hefyd, cynyddasai rhif eglwysi y Methodistiaid yn fawr; ond nid oedd gynnydd cyfatebol yn nifer yr offeiriaid, yn hytrach lleihad, yn gymaint â bod rhai a ymunasent ar y dechrau yn cael eu symud drwy farwolaeth. Oherwydd yr amgylchiadau hyn rhaid ydoedd i aelodau'r Methodistiaid fyned â'u plant i'w bedyddio i'r Eglwys Sefydledig, a myned yno hefyd i gyfranogi o Swper yr Arglwydd. Ymunasai Mr. Charles â'r Methodistiaid yn niwedd 1784;[1] Simon Lloyd yn 1802 neu 1803[2], a William Lloyd yn 1805 neu 1806. Gwelir, felly, o'r adeg yr ymunodd Mr. Charles â'r Methodistiaid yn 1784 hyd y flwyddyn 1802 neu 1803, nad oedd neb ond ef i weinyddu'r Ordinhadau drwy holl Siroedd Gogledd Cymru, Liverpool, a Manchester, oddieithr pan ddeuai rhai o'r offeiriaid o'r De ar daith drwy'r Gogledd.

Ceir pob sail i gredu fod a wnelo amgylchiadau eithriadol eglwys Liverpool gryn lawer ag arwain meddwl rhai o wŷr mwyaf blaenllaw y Cyfundeb i gymeradwyo ordeiniad "gwŷr lleyg" i weinyddu yr Ordinhadau, ac nid amhriodol a fydd adrodd yn y fan hon y modd yr ymdrawai yr eglwys yn flaenorol i ordeiniad gweinidogion cyntaf y Cyfundeb yn y flwyddyn 1811.

Cyn belled ag y gwelsom, yr unig offeiriaid o'r De a fu ar ymweliad â Liverpool yn y blynyddoedd hyn oedd y Parchn. David Jones, Llangan, a David Griffiths, Nefern, Sir Benfro. Bu'r efengylydd mwyn o Langan yn pregethu deirgwaith yng nghapel Pall Mall ar y 10fed o Awst, 1800. Ei destunau oedd: Mat. xvi. 17, "Gwyn dy fyd di, Simon "; Esa. iv. 5. "Ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn"; ac Esa. xxx. 7, "Eu

  1. "Life of Thomas Charles " (D. E. Jenkins), cyf. i., t.d. 521. Dengys Mr. Jenkins mai'r flwyddyn 1784 sydd gywir, ac nid 1785 fel yr arferid credu.
  2. Dywaid "Y Tadau Methodistaidd," "tua chanol y flwyddyn 1802"; dywaid "Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd," "yn niwedd y flwyddyn 1803 y cymerodd ymadawiad terfynol Mr. Lloyd ag Eglwys Loegr le."