Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nerth hwy yw aros yn llonydd." Nid oes gofnod ddarfod iddo weinyddu yr Ordinhadau, ond diamau i'r eglwys fanteisio ar ei ymweliad i fwynhau'r fraint honno.[1] Bu'r Parch. David Griffiths, Nefern, yn gwasanaethu yng nghapel Pall Mall ar y 6edo Fai, 1802, a cheir cofnodiad iddo fedyddio pedwar o blant. Pan na ddigwyddai cyfleusterau fel hyn, byddai mwyafrif yr aelodau yn myned â'u plant i'w bedyddio i eglwys St. Nicholas, gan y Parch. Lewis Pugh. I gyfranogi o Swper yr Arglwydd, "trefnid" i'r aelodau "fyn'd gyda'i gilydd" i eglwys St. James, congl Upper Parliament Street a St. James' Place presennol,—eglwys, fel y gwelir, oedd gryn bellter o Pall Mall. Gweinidog yr eglwys honno oedd y Parch. William Wise, a ddisgrifir fel "gweinidog efengylaidd," "gŵr tra syml a duwiol," a ddangosai'r parodrwydd mwyaf i roddi'r Cymun i'r Cymry "unrhyw Saboth a ddewisent, ond iddynt ddyfod i'r eglwys i'w dderbyn; a chlywsom ein tadau yn canmol y wledd a gawsent yno lawer tro."[2] Wedi marw Mr. Wise, ai'r aelodau i Christ Church, Hunter Street, allan o Byrom Street, lle'r oedd y Parch. Mr. Shirley, cyfaill agos Mr. Charles, yn gweinidogaethu. Byr fu arhosiad Mr. Shirley yn Liverpool, —oddeutu dwy flynedd; ac wedi ei ymadawiad ef " ni byddai'r Trefnyddion Calfinaidd yn myned i un man o'u lle eu hunain i dderbyn Swper yr Arglwydd."[3]

Dengys Cofrestr Bedyddiadau eglwys Pall Mall mor anfynych y gweinyddid yr Ordinhadau ynddi. Dichon nad yw y rhestr yn gyflawn, ond hi ydyw'r unig ddangoseg a feddwn yn awr o weinyddiad yr Ordinhadau Santaidd yn y blynyddoedd yr adroddir am danynt. Y cofnod cyntaf ar y rhestr ydyw bedydd Elizabeth, plentyn William ac Elizabeth Lewis, Plumbe Street; y tad yn wneuthurwr esgidiau; y tad a'r fam

  1. Credwn nad oedd ymweliad Mr. David Jones â'r dref yn hysbys o'r blaen. Cawsom y manylion uchod o'r "Belmont MS. No. 8," Llyfrgell y Brifysgol, Bangor. Dengys yr un Cofnodion i John Evans, New Inn, fod yn Liverpool, Mehefin 29, 1800; John Evans, y Bala, Gorff. 18, yr un flwyddyn; a Robert Roberts, Clynnog, Hydref 10fed.
  2. "Cofiant y Parch. John Elias," t.d. 105. Hefyd "Crynodeb" Pedr Fardd t.d. 9; dywaid ef y byddai llawer o'r aelodau yn myned i eglwys Mr. Wise "bob mis am gryn amser.
  3. Pedr Fardd," Crynodeb," etc.