Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn enedigol o Liverpool; y plentyn wedi ei eni Gorffennaf 7fed, 1788, a'i fedyddio ar y 14eg o'r un mis. Y mae'n anodd bod yn sicr pa un ai "S. Lloyd, Minister" ai "J. Lloyd, Minister" sy'n ysgrifenedig fel enw'r gweinidog a weinyddodd y bedydd. Credwn, fodd bynnag, nad oes llawer o le i amau nad y Parch. Simon Lloyd y Bala ydoedd. Gwir nad ymunasai efe eto â'r Methodistiaid, ond yr oedd "yn gyfeillgar" â hwy ers llawer o flynyddoedd, a "rhywbryd rhwng 1785 a 1790 daeth i ryw gysylltiad ffurfiol â hwy, ond nid oedd Mr. Lloyd yn ystyried fod y cysylltiad hwnnw yn cyfnewid dim ar ei berthynas ef ag Eglwys Loegr."[1] O'r flwyddyn 1804 hyd y flwyddyn 1813 deuai Simon Lloyd ar ymweliad â Liverpool unwaith yn y flwyddyn, a bedyddiodd, yn ôl y Gofrestr, gynifer â 77 o blant.

Dwywaith yn unig y gwelwn gofnodiad o ymweliad y Parch. William Lloyd, Caernarfon, a'r dref, sef ar yr 21ain o Ragfyr, 1807, pryd y bedyddiodd ddeg; ac ar y 14eg o Dachwedd y flwyddyn ddilynol, pryd y bedyddiodd chwech.

Dengys y Gofrestr ymhellach i'r ddau gurad Cymreig oedd yn y dref, y Parchn. John Davies a Lewis Pugh, fedyddio nifer o blant yng nghapel Pall Mall, heblaw y rhai a fedyddiwyd ganddynt yn eglwysi St. Nicholas a St. Paul,—praw clir o ysbryd efengylaidd y gwŷr da hyn. Yn y ddwy flynedd 1802 ac 1803 ceir enw un "G. Mitchell, Minister," yn gweinyddu bedydd ar ddau ar bymtheg; ac yn 1811 bedyddiwyd deuddeg gan Ed. Morgan, Minister." Ni wyddom i sicrwydd pwy oedd y ddau weinidog yma; nid yw'n ymddangos fod gweinidogion o'r enwau hyn yn Liverpool y blynyddoedd hynny. Yr oedd gweinidog o'r enw Mr. Mitchell yn byw yng Nghaer, â'r hwn yr oedd Mr. Charles yn bur gyfeillgar. Nid anhebygol gan hynny ydyw i Mr. Charles gael ganddo, fel un o "gymdogion agosaf" yr eglwys fechan yn Liverpool, roddi iddi y gwasanaeth hwn.[2] Credwn drachefn nad anhebygol yw mai'r

  1. "Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd," t.d. 556.
  2. "Life of Thomas Charles" (D. E. Jenkins), cyf. ii., t.d. 436. Ceir cyfeiriad at wr o'r un enw Mr. Mitchel, eglwyswr efengylaidd," yn hanes ymweliad Mr. Charles â'r Iwerddon. Cyfarfu Mr. Charles ag ef yn Limeric. Gwel hefyd Gofiant Mr. Charles gan T. Jones, Dinbych, t.d. 234.