Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ail oedd y Parch. Edward Morgan, Syston, genedigol o'r Pil, Morgannwg,—gŵr a ddaethai yn fore o dan ddylanwad David Jones, Llangan, a'r hwn oedd hefyd yn gyfeillgar iawn â Mr. Charles, ac a ysgrifennodd Gofiant Saesneg iddo.

Ymwelai Mr. Charles â'r dref yn lled fynych ac ystyried ei brysurdeb ac anawsterau teithio, a gwasanaethai nid y Cymry yn unig ond y Saeson hefyd. Mewn llythyr at ei fab cyfeiria at ryw amgylchiad pryd y pregethasai "for Mr. Shirley in the Temple."[1] Dywaid Corfannydd i hen chwaer o'r enw Ann Lloyd adrodd iddo am oedfa Mr. Charles yn eglwys Mr. Shirley yn Hunter Street ar fore Saboth: "Trefnwyd y moddion yn y capeli fel y gallai y bobl a ddewisent fyned i wrando. Hon oedd yr eglwys a ddaliai fwyaf yn y dref,—dwy oriel fawr, y naill uwchben y llall, o gylch yr adeilad. Llanwyd yr eglwys yn gyforiog, fel yr ofnai y Saeson,—na wyddent sut y medrai Cymry lenwi addoldy!—rhag i'r orielau dorri. Darllenodd Mr. Charles y gweddiau a'r llithoedd yn dra rhagorol. Pregethu yn ddwys, araf, a difrifol, a fyddai ef, ebe hi; byth yn bloeddio, ond yn traddodi yn fwynaidd a pheraidd i'r glust. Edrychai yn y gown gwyn fel angel!"[2]

Dengys y Llyfr Bedyddiadau y byddai Mr. Charles yn ym- weled yn amlach nag un gweinidog arall â Liverpool. Ym- ddengys ei enw y waith gyntaf, Mai 30ain, 1798, pan fedyddiodd Hannah, plentyn John ac Ann Evans, Key Street,-y tad yn ôf, yn enedigol o'r dref, a'r fam, Ann Griffiths wrth ei henw morwynol, o Amlwch. O'r flwyddyn 1801 hyd 1813, y flwyddyn cyn ei farwolaeth, bu ar ymweliad â'r dref bron bob blwydd-

  1. Cyfeiriwyd eisoes at Mr. Shirley fel gweinidog Christ Church, Hunter Street, a chyfaill i Mr. Charles. Capel oedd "The Temple " a elwid yn gyffredin, ar gyfrif ffurf adeilad, "The Octagon"; safai lle saif Temple Court presennol yn Dale Street, bron ar gyfer Moorfields. Adeiladwyd y capel ar y cyntaf gan aelodau a adawsent gapeli Presbyteraidd Key Street a Benn's Gardens, oherwydd anghyd- welediad ynglŷn â defnyddio ffurf-wasanaeth (Liturgy) yn yr addoliad. Darfu yr achos ymhen ychydig flynyddoedd, a phrynwyd yr adeilad gan weinidog perthynol i'r Eglwys Sefydledig. Galwyd yr eglwys newydd St. Catharine. Pan brynwyd y safle gan y Gorfforaeth, symudodd yr eglwys i Abercromby Square. Bu'r Cymry yn cymuno yn lled fynych yn yr eglwys yn Temple Court.
  2. Llythyrau Corfannydd, yn Llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor. Cadarnheir yr hanes gan lythyr o eiddo Samuel Jones, a ddywaid iddo ei glywed gan "yr hen bobol."