Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn, a bedyddiodd 83 o blant.[1] Daethai ei fab, Thomas Rice Charles, i Liverpool yn niwedd 1806, i gychwyn masnach. Mewn llythyr at ei dad, dyddiedig Rhagfyr 20fed y flwyddyn honno, dywaid Daniel Jones: "Mr. Charles fu yma y Saboth diwaetha gyda'i fab Thomas, sydd wedi cymeryd siop yn Heol Paradwys yn y dref hon, yn fwyaf yn y Linen Drapery." Agorodd siop yn No. 20 Paradise Street, ar gongl Crooked Lane." Ni bu ei arhosiad yn y dref ond byr, oherwydd cawn iddo ddychwelyd i'r Bala cyn diwedd 1808; a gofidus yw dywedyd na bu i'r achos crefyddol yn Liverpool fanteisio dim ar ei ddyfodiad yno; yn hytrach perodd ei ddyfodiad i'r dref bryder a blinder i'w dad ac i'w gyfeillion crefyddol.

Yr ydym yn awr wedi adrodd yr hyn oll, ni gredwn, y gellir ei adrodd am gyfleusterau, neu yn hytrach anghyfleusterau, yr eglwys yn Pall Mall, a bellach yr eglwys yn Bedford Street hefyd, i fwynhau holl ragorfreintiau eglwys Crist. O adeg sefydliad yr eglwys yn 1782, hyd adeg neilltuad y gweinidogion cyntaf yn y Gogledd yn 1811, cyfnod o naw mlynedd ar hugain, bu'r aelodau yn y dref yn dibynnu bron yn gyfan ar eraill, ac ar estroniaid o ran iaith a chenedl, am fwynhad o'u llawn freintiau. Nid annaturiol gan hynny ydoedd bod teimlad cryf yn y dref ymhlaid ordeinio "brodyr o'n plith ein hunain" i weinyddu yr Ordinhadau; ac, fel y dywedwyd yn barod, mae'n amlwg fod ystyriaeth o amgylchiadau Cymry Liverpool wedi dylanwadu yn gryf ar feddwl arweinwyr y Cyfundeb. Er hyn i gyd, gwelwn nad oedd yr holl frawdoliaeth hyd yn oed yn Liverpool yn unol ar y mater. Ofnai rhai o'r brodyr bob newid. Yr oedd Thomas Edwards, a ddaethai erbyn hyn yn bregethwr pur boblogaidd, ac yn fawr ei barch a'i ddylanwad, yn gwrthwynebu y mudiad am ordeinio yn gryf. Ysgrifennodd lythyr maith ar y mater at Thomas Jones, Dinbych, yr hwn, fel y cofir, oedd un o'r arweinwyr pennaf o blaid ordeinio, yn ei "rybuddio yn dra difrifol i

  1. Diamau iddo ar yr holl ymweliadau hyn weinyddu hefyd yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd. Diddorol yn y cysylltiad hwn yw yr hyn a ddywedai Mr. Charles mewn cyfarfod yn y Bala ynglŷn â'r Feibl Gymdeithas: Byddaf bob amser yn defnyddio Gweddiau yr Eglwys pan yn gweinyddu yn gyhoeddus Sacrament Swper yr Arglwydd, ac yn ein capeli yn gyffredinol ceir y Beibl a'r Llyfr Gweddi wedi eu rhwymo ynghyd ar ein holl bulpudau."