Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beidio ymyraeth (meddle) a'r bobl hynny sydd wedi ymroddi i gyfnewidiadau," ac ar iddo ef ac eraill oedd yn ddynion mawr" ochelyd rhag "yr ysbryd sydd yn dyfod i'r golwg yn Numeri xii. 2, ac a ddangoswyd yn Seba, mab Bichri, yn Samuel xxi. 1." Yr oedd Daniel Jones, o'r ochr arall, yn gryf o blaid ordeinio; ac er nad oedd eto ond gŵr cymharol ieuanc, yr oedd ar delerau o gyfeillgarwch neilltuol â gwŷr blaenaf y Gogledd, Thomas Charles, John Elias, Thomas Jones, ac eraill. Ceir ei fod mewn gohebiaeth gyson â hwy, a rhoddent hwythau bwys ar ei farn, fel y praw y llythyrau a ysgrifennent ato. Ymysg llythyrau Daniel Jones at ei dad, yr hwn, fel y mae'n hysbys, gyda Mr. Charles, oedd prif wrthwynebwyr y mudiad ar y cyntaf yn y Gogledd, ceir un dyddiedig Hydref 29ain, 1808, yn yr hwn y dywaid: "Ymherthynas i'r hyn a ddywedasoch .... yn Association Carnarvon am i'r gwyr Llyg weinyddu yr ordinhadau, nid oes gennyf ond dyweyd am danoch chwi yn bersonol fel y dywedodd Mr. James James Deheudir wrth John Williams Meidrim:——a'th helpo, Jack bach; ti bechaist bechod na faddeuir iti byth. Y mae lle i obeithio am faddeuant am bechu yn erbyn yr Arglwydd, ond ti bechaist yn erbyn offeiriaid, na chai ganddynt faddeuant byth!' Felly yr wyf yn dyall i chwithau dueddu yn Association Carnarvon o blaid y Laymen yn y Deheudir. Mae'n gwestiwn gennyf a gewch faddeuant; ond trwy'r cwbl yr wyf yn mawr hyderu a gobeithio y daw pob peth oddiamgylch er gogoniant i enw yr Arglwydd, er bendith, budd, a llesad yr eglwys, ac y bydd y brodyr yn gyttun, a thangnefedd ar Israel."

Nid oes, hyd y gwelwn, unrhyw gofnodiad ar gael o'r Gymdeithasfa a gynhaliwyd yng Nghaernarfon yn y flwyddyn 1808, at yr hon y cyfeiria Daniel Jones. Gwelir oddiwrth un o lythyrau Mr. Charles nad oedd ef yn alluog i fod ynddi oherwydd gwaeledd. Y mae'n amlwg, fodd bynnag, oddiwrth lythyr Daniel Jones, i ryw drafodaeth fod ynddi ar gwestiwn yr Ordeinio, a gellid casglu, oddiwrth yr hyn a ddywaid ei fab, ddarfod i Robert Jones gymryd safle bleidiol i hynny,—mai dyma oedd ei bechod yn erbyn yr offeiriaid,—safle wahanol i'r hyn a briodolir iddo yn gyffredin. Dichon ei fod ef, fel eraill o'r brodyr da, yn petruso llawer, ac heb allu gwneud eu