meddwl i fyny yn derfynol ar fater y teimlent gymaint pryder wrth geisio ei benderfynu. Fodd bynnag, ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, cawn Daniel Jones yn ysgrifennu at ei dad y llythyr a ganlyn, ac yn amgau iddo lythyr Thomas Jones, Dinbych, yn ateb i'r eiddo Thomas Edwards[1]:
At Mr. Robert Jones, Ty Bwlkyn.
Fy anwyl a Pharchedig Dad,-Mae yr uchod (sef llythyr Thomas Jones, Dinbych) yn atebiad cyflawn i'r llythyr diweddaf a anfonasoch ataf. Gallaswn ysgrifennu llawer o ddalennau ar y pwnc; ond yr wyf wedi yfed mor helaeth o ysbryd yr anwyl Robert Roberts (Clynnog), yr hwn sydd yn awr yn ei fedd, ar y mater hwn, ac yr wyf wedi darllen cynifer o lyfrau duwiol yn dal perthynas â'r pwnc, fel mai llafur ofer ydyw i unrhyw un geisio ysgrifennu ataf a dadleu a mi i geisio fy argyhoeddi o wirionedd yr ochr wrthwynebol. Gyda golwg arnaf fy hun yr wyf yn hollol argyhoeddedig yn fy meddwl am yr angenrheidrwydd i'r eglwys i gael y gweinyddiad o'r ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd yn fwy mynych, cyn i mi erioed glywed am John Elias, nac adnabod Mr. Jones, Dinbych, yn neilltuol. Ac yr wyf yn credu yn gadarn, fel y dywedais o'r blaen, fod pwy bynnag, bydded ef y neb a fyddo, a wrthwynebo i'r eglwysi gael yr ordinhadau a osodwyd iddynt gan Grist, yn sicr o golli ei goron, a bydd hynny yn ysmotyn du ar eu henwau a'u cymeriadau am oesoedd i ddyfod, a bydd i hyny gael ei ysgrifennu ar eu beddau—"Yma y gorwedd ——, dyn da, a gweinidog da, ond efe a wrthwynebodd i eglwysi Crist, ei Feistr, gael yr hyn yr oedd Crist ei hun wedi ei roddi i'w eglwys." O ddyn creulawn!!! Mi a obeithiaf na welir fy anwyl dad byth ymysg y dosbarth yma. Amen ac Amen.
Yr wyf yn meddwl yn fynych am un peth yn neilltuol yn y dyddiau yma, hynny yw, ein bod yn byw mewn oes nodedig iawn, oes ag y mae rhyddid gwladol a chrefyddol yn cael ei gyhoeddi mewn llawer gwlad oedd yn ddyeithr iddo o'r blaen; yn enwedig y mae rhyddid crefyddol yn cael ei gyhoeddi trwy ranau helaeth Ewrop. Ac os felly, paham na chyhoeddir ef hefyd yn Nghymru dlawd? Os ydych chwi yn Sir Gaernarfon, a'r brodyr yn Sir Feirionydd, yn foddlawn i bethau barhau fel y maent, paham y byddai raid i unrhyw berson neu bersonau wrthwynebu i Sir Fôn, a Sir Ddinbych, a Sir Fflint, i wneyd yr hyn y maent hwy yn weled yn oreu er lles eu pobl? Gan ein bod yn byw mewn gwlad rydd, paham y rhaid i ni gaethiwo y naill y llall? Mi a obeithiaf y bydd i chwi weled rhesymoldeb y pethau hyn.
Gyda golwg ar y cwynion a ddygwch yn ein herbyn o fod yn "fechgyn penboethion, a'u cyflyrau eu hunain a'u hardaloedd yn dra isel a thruenus," rhaid i mi addef fy mod i yn ddi-gel yn pleidio yr achos o waelod fy nghalon, ac a'm holl enaid. Gallwch chwi fy ngalw yn benboeth neu beth a fynoch. Ond dymunaf ofyn—A oedd Robert Roberts (Clynnog), a'i ardal felly? Na, dim o'r fath beth (No, never). A ydyw Ebenezer Morris, a'i ardal, felly? A ydyw John Elias, a'i ardal, felly? A ydyw Mr. Jones, o Ddinbych, a'i ardal, felly? A ydyw Lerpwl felly? Nac ydynt, nac ydynt, nac ydynt (No, no, no). Diolch i'r Arglwydd.
O.Y.-Nis gallaf byth anghofio fy ymddyddan olaf â'r diweddar anwyl, anwyl Robert Roberts (Clynnog) ar y mater yma.
- ↑ Gwelir y llythyrau fel yr ysgrifennwyd hwy yn wreiddiol yn Saesneg yng Nghyfrol iii., t.d. 245-249, "Life of Thomas Charles" (Jenkins); a chyfieithiad Cymraeg ohonynt, gan y Parch. Henry Hughes, Bryncir, yn " Y Drysorfa," 1894, t.d. 453.