Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoddasom y llythyr uchod yn llawn nid yn unig oherwydd rhagoriaeth y llythyr ei hun, ond oherwydd y dylanwad y cydnabyddir a gafodd ar Ddadl yr Ordeiniad. Credir mai'r llythyr hwn a fu'n foddion i argyhoeddi meddwl Robert Jones o'r angenrheidrwydd am neilltuo gweinidogion o'n plith ein hunain i'r Cyfundeb; o leiaf, y mae'n hollol amlwg mai'r adeg yma yr argyhoeddwyd ef o hynny. Nid oedd neb y rhoddai Mr. Charles fwy, os cymaint, pwys ar ei farn a Robert Jones; a chredir mai trwy ei ddylanwad ef y daeth Mr. Charles i gyd-symud â'i frodyr. Cadarnheir y dybiaeth yma gan yr hyn a ddywaid Dr. Owen Thomas yng Nghofiant John Jones, Talsarn: "Sicrhawyd ni gan Mr. Michael Roberts mai llythyr i Mr. Robert Jones . . . . a enillodd feddwl Mr. Charles i gydsynio a dymuniad cyffredinol y Cyfundeb i gael neilltuo gweinidogion o'u plith eu hunain i'r holl waith;' a thybir hefyd, fel y dywedwyd, mai y llythyr hwn o eiddo ei fab, Daniel Jones, a enillodd ei dad i bleidio y symudiad.

Ni pherthyn i ni ddilyn hanes y Ddadl ymhellach. Yng Nghymdeithasfa'r Bala, Mehefin, 1810, penderfynodd y Gogledd bod ordeinio i fod, a'r flwyddyn ddilynol neilltuwyd wyth i holl waith y weinidogaeth. Er dangos eto y teimlad a ffynnai yn Liverpool ar y mater, credwn na ddylem fyned heibio i'r amgylchiad heb grybwyll am lythyr a anfonasai "gwr parchus o flaenor yn Liverpool" (ni wyddis pwy ydoedd), at John Elias, ym misoedd olaf 1810, "yn cwyno yn ddwys fod pethau yn cael eu gadael fel yr oeddynt, gan ofyn, yn enw Cristionogaeth a lles eneidiau dynion, beth oeddynt i'w wneud, ac am ba hyd yr oeddynt i'w gadael heb weinyddiad teilwng, a rheolaidd, a chyson, o Ordinhadau yr Efengyl iddynt fel eglwysi Crist." Datganai Mr. Elias yn ei ateb " gydymdeimlad dwys â sefyllfa yr eglwysi yn Liverpool. . . . Ysgrifennwch i'r Bala i geisio gan Mr. Charles neu Mr. Llwyd i ddyfod atoch i weini yr Ordinhadau ac os na ddeuant, nid wyf yn meddwl y byddai yn bechod mawr i chwi geisio gan Mr. Jones, o Ddinbych, ddyfod atoch." Ysgrifennai Mr. Elias y llythyr hwn ar y 26ain o fis Tachwedd, 1810, llai na chwe mis wedi i Gymdeithasfa y Bala benderfynu ymhlaid ordeinio, ac ychydig rhagor na chwe mis cyn yr ordeiniad cyntaf, ym Mehefin, 1811. Pan