Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofir hyn, a phan ddeellir ystyr y cyfeiriad at Mr. Jones, Dinbych, gwelir mor gryf oedd teimlad Mr. Elias ar y mater. Ar alwad yr eglwys yn Ninbych, gweinyddasai Thomas Jones fedydd ar blentyn bychan, dri mis cyn Cymdeithasfa'r Bala yn 1810, a phymtheng mis cyn iddo ef gael ei ordeinio. Gweinyddodd hefyd Sacrament Swper yr Arglwydd ragor nag unwaith cyn ei ordeinio. Achosodd hyn, fel y gellir yn hawdd gredu, gynnwrf dirfawr, ond y mae'n amlwg oddiwrth y frawddeg olaf yn llythyr John Elias, yn rhoddi awgrym i eglwysi Liverpool ei wahodd i weinyddu yr Ordinhadau iddynt hwy, ei fod ef yn cwbl gymeradwyo yr hyn a wnaethai y gŵr eofn o Ddinbych.[1]

Bellach, wedi dangos perthynas Liverpool â chwestiwn y Neilltuad, gadawn ef gan ychwanegu yn unig bod saith o'r wyth cyntaf a ordeiniwyd yn y Bala ym Mehefin, 1811, wedi bod yn gwasanaethu yr eglwys yn Liverpool. Daeth Richard Lloyd, Biwmares, i'r dref Awst 19eg, 1811, a bedyddiodd bump o blant yng nghapel Pall Mall. Gweinyddodd John Elias yr Ordinhadau am y waith gyntaf yn Liverpool yng nghapel Bedford Street, Hydref 13eg, 1811, a bedyddiodd dri phlentyn.[2] Bum wythnos yn ddiweddarach, Tachwedd 18fed, bedyddiodd John Roberts, Llangwm, ddau yn yr un lle. Y

  1. Dengys y dyfyniad a ganlyn o "Gofiant John Elias" mor fawr ydoedd pryder y tadau rhag i'r mudiad ymhlaid ordeinio" fod yn achlysur o un niwed na rhwystr i'r achos.... Yn y Cyfarfodydd Misol, yn gystal ag yn yr eglwysi, annogai (J. Elias) bawb i daer ymbil am arweiniad Pen Mawr yr Eglwys yn y symudiad pwysig hwn. Fel yr oedd amser y Gymanfa yn yr hon y bwriedid i'r peth gymeryd lle yn agosau, yr oedd gwasgfa ei feddwl yntau yn yr achos yn ychwanegu. Gwelid hynny yn amlwg yn nghyfarfod blynyddol Liverpool y Sulgwyn hwnnw, pryd yr oedd y Parch. T. Charles a'r Parch. S. Lloyd, o'r Bala, ac amryw eraill o'r hen dadau, yn bresennol. Yn y cyfarfod eglwysig, boreu ddydd Llun, rhoddwyd yr anogaethau dwysaf i ni oll gyd- ymbil, mewn gweddiau taer, am Ddwyfol arweiniad yn yr achos hwn."
  2. Dywedir yn ei Gofiant, t.d. 94: "Yr oedd efe ... megis wrth bregethu yr Efengyl, yn rhoddi allan ei holl egni a'i rym, yn enwedigol wrth weinyddu Swper yr Arglwydd. Pan ymwelodd efe a Liverpool yn niwedd y flwyddyn honno (1811), gweinyddodd yr ordinhadau yno am y waith gyntaf; ac yr oedd y llewyrch a'r dylanwadau grasol a ddilynent y gweinyddiad o'r ordinhad olaf a enwyd, yn rhyw adfywiad hyfryd i eneidiau y saint. Yn y gymdeithas neilltuol, nos Lun, ymdriniwyd â'r athrawiaeth am yr ordinhad o Fedydd, pryd y cafwyf mwy o oleuni ar Ddwyfol osodiad, natur, dyben, a deiliaid yr ordinhad hon, nag a gawsid erioed o'r blaen. Yn wir anfynych iawn y cyffyrddid a'r athrawiaeth am hyny.... Yr oedd llawer heb ei golygu yn ddim amgen na defod wladol wrth enwi plentyn."