Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tro cyntaf y gwelwn i Thomas Jones, Dinbych, weinyddu bedydd yn y dref ydoedd Ebrill 24ain, 1814; Evan Richardson, Caernarfon, Tachwedd 20fed, 1815; John Davies, Nantglyn, Ebrill 22ain, 1816; a William Jones, Dolyfonddu, Hydref 11eg, 1824,—y tri olaf yn Pall Mall. Bu Ebenezer Richards, un o'r tri ar ddeg cyntaf a ordeiniwyd yn y De, yn gweini yr Ordinhadau yn Pall Mall, Gorffennaf 9fed, 1813.[1] Gwelwn hefyd i Robert Ellis, yr Wyddgrug, yr hwn a ordeiniesid yng Nghyfundeb yr Arglwyddes Huntington, ac y penderfynodd Cymdeithasfa'r Bala ar neilltuad yr wyth cyntaf, ei gydnabod yntau yn weinidog gyda'r Methodistiaid, weinyddu yr Ordinhad o fedydd yn Pall Mall, Mawrth 28ain, 1814. Gwelir felly mai'r unig un o'r wyth gweinidog cyntaf a ordeiniwyd yn y Gogledd nad yw'n ymddangos iddo fod yn gwasanaethu yn Liverpool ydoedd Evan Griffiths, Meifod.

Erbyn hyn yr oedd dwy eglwys wedi eu sefydlu yn y dref, a'r ddwy bellach wedi myned yn eglwysi lled luosog. Parhai yr anhawster i sicrhau gweinidogaeth gyson o hyd, oherwydd yn bennaf yr anghyfleustra i deithio o Gymru i'r dref; ac er bod ordeiniad gweinidogion o'n plith ein hunain wedi sicrhau gweinyddiad amlach nag a fuasai gynt o'r ordinhadau, bylchog ac achlysurol ar y gorau oedd ymweliad gweinidogion ordeiniedig. Yn wyneb hyn, a'r galwadau ychwanegol oherwydd cynnydd y ddwy eglwys, penderfynwyd ordeinio un o'r ddau bregethwr y cyfeiriwyd atynt, a'r rhai, yn ôl tystiolaeth eu cydoeswyr, a wasanaethent yr eglwysi gyda ffyddlondeb na allesid rhagori arno,—Thomas Edwards a Thomas Hughes. Cymerwyd pleidlais yr eglwys,"—nid "yr eglwysi," ond "eglwys," canys golygid y ddwy gangen yn un eglwys-ac ar Thomas Hughes y syrthiodd y goelbren. Ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa'r Bala, Mehefin 1816, i holl waith y weinidogaeth.

  1. Bu Ebenezer Morris hefyd ar ymweliad â'r dref-ei unig ymweliad â Liverpool- ym Medi, 1808, dair blynedd cyn ei ordeiniad. Pregethodd dair noswaith yn olynol. Dywaid Dr. Thomas i Thomas Richards fod yn y dref ddwywaith, os nad teirgwaith; a William Morris, Cilgerran, ddwywaith. Anfonwyd cennad yn Awst, 1824, i Gymdeithasfa y De yn Llanbedr, i ddymuno ar i'r gweinidogion a ddelent ar daith drwy'r Gogledd ymdrechu rhoddi ychydig ddyddiau yn Liverpool i gynorthwyo yr achos yno.