Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er bod y capel yn Pall Mall, fel yr adroddwyd, wedi ei helaethu ddwywaith eisoes, ac er bod nifer o'r aelodau wedi ymuno â'r gangen yn Bedford Street, a'r enwadau Cymreig eraill wedi sefydlu eglwysi yn gyfagos iddynt, gymaint ydoedd y cynnydd ym mhoblogaeth Gymreig y dref fel yr aeth capel Pall Mall yn rhy fychan drachefn i gynnwys y gynulleidfa a ddeuai ynghyd ar y Sabothau. Oddeutu'r adeg yma digwyddodd nifer o dai, a safai rhwng y capel a phen Prussia Street, fyned ar werth, a phrynwyd hwy i'r diben o helaethu y capel unwaith yn rhagor. Tynnwyd yr hen addoldy i lawr yn llwyr, ac adeiladwyd un newydd. Mesurai y cysegr newydd un llath ar hugain wrth bedair llath ar ddeg a hanner. Rhedai oriel helaeth ar dair ochr iddo. Y draul o'i ail-adeiladu ydoedd £1,700. Adroddir ddarfod cymryd yr holl eisteddleoedd cyn dydd ei agoriad, oddieithr ychydig nifer yn y pen draw, a neilltuasid ar gyfer y tlodion; a chyn hir, yr oedd y capel mor llawn ag y bu erioed cyn ei ail adeiladu!"

Wynebai y capel yn awr i Prussia Street, ac yno yr oedd y ddau ddrws i fyned i mewn iddo; er hynny parheid i'w alw wrth yr hen enw, Pall Mall. Ar gyfer y ddau ddrws yr oedd y grisiau a arweiniai i'r oriel; ac yn y mur wrth y ddau risiau, yr oedd dau dwll ysgwâr, a drws arnynt, fel y gellid eu hagor pan fyddai'r capel yn orlawn, er mwyn i'r rhai a safent ar y grisiau allu clywed y bregeth. Dengys y Llyfr Bedyddiadau ddarfod bedyddio tri phlentyn o eglwys Pall Mall ar yr 22ain o Fedi, 1816, yng "nghapel Hackin's Hey," gan y gweinidog newydd—ordeiniedig, Thomas Hughes. Yn Hackin's Hey yr oedd hen Gapel y Crynwyr, ond symudasant i le arall yn 1796, a defnyddid yr adeilad ar ôl hynny fel ysgol. Y tebygrwydd, gan hynny, ydyw i eglwys Pall Mall, tra'r elai'r gwaith o ail-adeiladu y capel ymlaen, ddefnyddio'r adeilad hwn i gynnal ynddo ei chyfarfodydd crefyddol.

Agorwyd y deml newydd Ionawr 12fed, 1817,—y Parch. John Elias yn pregethu, ac ef ar y pryd yn anterth ei nerth, yn dair a deugain oed. Pregethodd deirgwaith y Saboth, ar y testunau Gen. xxviii. 17; Job xx. 15; Pregethwr vii. 10; a nos Lun, loan xvii. 20. Fel bob amser ar ei ymweliad ef, gorlanwyd y capel: ymhob set, ar y llawr a'r orielau, eis-