teddai un rês o wrandawyr a safai rhês arall o'u blaen. Yr un modd yn yr alleys. Pan welodd y pregethwr fod y capel wedi ei or-lenwi fel hyn, safodd ennyd cyn cymryd ei destun. Edrychodd o'i amgylch, yn araf a difrifol, nes tynnu sylw pawb, a chael distawrwydd perffaith. Yna wedi sylw byr ar yr addoldy newydd, hardd, oedd ganddynt, rhybuddiodd y gynulleidfa rhag "aflonyddu a dychryn pe clywai rhai ohonynt y coed newydd yn clecian o dan eu traed." Anogai hwy "i sefyll yn llonydd, i beidio a cheisio rhuthro allan, gan yr achosai hynny lawer mwy o alanastr." Aeth rhagddo i ddweud "bod dynion mor annuwiol a llenwi eu pocedau â chnau, a myned i leoedd yr ymgasglai tyrfa fawr, gan ddodi'r cnau yn ddistaw ar lawr mewn rhyw gwr o'r adeilad; a phan lanwai y lle, sathrai y bobl y cnau, nes peri i rai ofnus dybied fod yr adeilad ar syrthio, a hynny yn cynyrchu braw, ac yn arwain i alanastra a thrychineb." Diau i'r pregethwr gyfeirio at hyn oherwydd y profiad brawychus a gawsid ychydig flynyddoedd yn flaenorol, am yr hwn yr adroddwyd yn barod, pan ddechreuodd y gynulleidfa fawr, yn ei dychryn, ruthro allan. Nid rhyfedd wrth ddarllen y sylwadau hyn ydyw credu tystiolaeth ei hen wrandawyr, "fod John Elias yn gymaint pregethwr fel y gallai ddywedyd y pethau mwyaf cyffredin, o flaen ei bregeth neu yn ei bregeth, heb i hynny ddarostwng dim ar urddas y pulpud, na lleihau dim ar ddylanwad y genadwri."[1]
Yng nghorff y blynyddoedd yr adroddwyd yn awr am danynt ni chawn i'r eglwys yn Pall Mall ychwanegu ond dwywaith at rif ei swyddogion. Yn y flwyddyn 1799 dewiswyd Peter Jones (Pedr Fardd) yn flaenor, ef ar y pryd onid gŵr ieuanc tair ar hugain oed. Bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, yn 1813, bu dewisiad drachefn, pryd y galwyd i'r swydd John Hughes, Mansfield Street, a Rice Price.
Colled ddirfawr i'r eglwys yr adeg yma oedd ymadawiad Daniel Jones o'r dref. Ceir adrodd yn helaethach mewn pennod ddilynol faint ei wasanaeth i'r Achos. Digon yw dweud
- ↑ Rhyfedd ydyw adrodd i ddigwyddiad nid anhebyg i'r hwn yr adroddwyd eisoes amdano ddigwydd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach na hyn. Mor agos ag y gallwn gasglu digwyddodd yng nghorff y flwyddyn 1824. Syrthiodd peth o'r plastr o'r ceiling. Rhuthrodd y gynulleidfa allan y waith hon drachefn, ac anafwyd amryw