Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn awr i'w amgylchiadau masnachol ddyrysu, a hynny mewn modd na feddai ef, fel yr ymddengys, unrhyw gyfrifoldeb amdano. Cyn fanyled, fodd bynnag, ydoedd disgyblaeth eglwysig yn y blynyddoedd hyn fel yr ataliwyd ef o bregethu, ac ataliwyd ef hefyd o'r Cymun; ond nid yw yn hollol glir a gollodd ei aelodaeth am dymor. Gwnaeth ymdrech ddewr i adennill ei safle fasnachol, ond yn ofer; a rhywbryd oddeutu diwedd y flwyddyn 1821, neu ddechrau 1822, symudodd i gymdogaeth Dinbych, lle treuliodd weddill ei oes. Daethai brawd iddo, llawer ieuengach nag ef, i'r dref yn niwedd y flwyddyn 1804,-Samuel Jones, bachgen oddeutu pymtheg oed. Fel y ceir gweled, daeth ef, mewn blynyddoedd diweddarach, i roddi gwasanaeth maith a gwerthfawr amhrisiadwy i'r Achos, megis y rhoddasai ei frawd Daniel o'i flaen.

Oddeutu'r adeg yr ymadawodd Daniel Jones rhoddodd yr eglwys, yn y flwyddyn 1821, ganiatad i ŵr ieuanc o'r enw John Jones, Argraffydd, Castle Street, bregethu,-gŵr, fel y ceir adrodd ymhellach, a roddodd wasanaeth gwerthfawr i'r eglwys, mewn rhagor nag un cyfeiriad, er darfod iddo, mae'n wir, roddi rhai profedigaethau iddi hefyd.

Ni chyfarfuasom ag unrhyw amgylchiad o bwys yn hanes yr eglwys o adeg agoriad y capel newydd yn nechrau 1817 hyd yr adeg pan deimlwyd yr angenrheidrwydd am wneuthur rhyw ddarpariaeth bellach drachefn yn wyneb cynnydd parhaol y gynulleidfa a ddeuai ynghyd, Saboth ar ôl Saboth, gan lanw'r adeilad eang hyd yr ymylon. Heb fod ymhell o gapel Pall Mall, yn Great Crosshall Street, yr oedd capel yn perthyn i'r Bedyddwyr Uwch-Galfinaidd ar werth. Cytunwyd i brynu hwnnw, ac ym mis Ebrill, 1824, dechreuodd y Methodistiaid gynnal gwasanaeth crefyddol ynddo. Ni raid dywedyd rhagor yn y bennod hon na bod anhawster wedi codi ynglŷn â'r pryniant, fel y bu raid ei roddi i fyny. Yn ganlynol prynwyd darn o dir ym mhen gogleddol Comus Street, ac yno y dechreuwyd yr achos a adweinid mewn blynyddoedd diweddarach fel eglwys Rose Place, trydedd eglwys y Cyfundeb yn y dref. "Er bod gan y Trefnyddion Calfinaidd Cymreig yn awr," ebe Pedr Fardd, "dri gwahanol gappelau, neu leoedd addoliad, yn Llynlleifiad, lle y pregethant ac y cynnaliant eu cyfarfodydd