Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR.

YNG Nghofnodion Cyfarfod Misol Liverpool, Hydref 4ydd, 1882, ceir y penderfyniad a ganlyn: "Ein bod yn taer erfyn ar y Parch. Dr. Owen Thomas i ymgymeryd â'r gwaith o ysgrifennu Llyfr Coffadwriaethol yn cynnwys Hanes Dechreuad yr Achos yn Liverpool." Ni all neb a ddarllenno y penderfyniad lai na theimlo gofid na buasai Dr. Thomas wedi gallu ymaflyd yn y gwaith; oherwydd, ar lawer ystyriaeth, nid oedd, ac ni fu, neb cymhwysach nag ef i wneuthur hynny, ar gyfrif nid yn unig ei ddoniau fel cofiannydd a hanesydd, ond hefyd ar gyfrif ei adnabyddiaeth agos o'r gwŷr a fu a rhan flaenllaw yng nghychwyniad Methodistiaeth y ddinas. Pan wnaed y cais hwn ato, fodd bynnag, dechreuasai pwys blynyddoedd wasgu arno, a'i nerth ballu ; ac nid yw yn ymddangos iddo wneuthur rhagor na pharatoi yr Anerchiad a draddododd yng Nghyfarfod Canmlwyddiant yr Achos fis Tachwedd yr un flwyddyn. Ceir yr Anerchiad hwnnw bron yn gyflawn yn ei Gofiant.

Wedi marw Dr. Thomas ymddiriedwyd y gwaith i'r Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle; ac wedi ei farw ef, i'r Parch. O. J. Owen, M.A., Rock Ferry. Nid oes neb a'i hadwaenai na ŵyr am brysurdeb eithriadol bywyd Mr. Ellis, a goddiweddwyd yntau yn ei flynyddoedd olaf gan lesgedd maith. Yr un modd gyda'r gweithiwr tawel a diwyd Mr. Owen: gwyddai am aml a blin gystuddiau. Nid yw'n ymddangos ddarfod i'r naill na'r llall o'r brodyr annwyl hyn ysgrifennu dim o'r Hanes. Ceir pump neu chwech o ysgrifau rhagorol gan Mr. Owen yn "Y Drysorfa," ac yng "Nghylchgrawn Hanes y Cyfundeb," ar rai materion yn codi o'r Hanes; a hyd y gwelaf, cynnwys yr ysgrifau hynny holl ffrwyth ei ymchwiliad. Pan ofynnwyd imi ysgrifennu yr Hanes, yn niwedd 1926, rhoddodd Pwyllgor y Cyfarfod Misol amser penodol o dair blynedd yn yr hwn y disgwylid imi orffen yr holl waith, mewn dwy gyfrol helaeth; ond gwnaed yr amod hwnnw, y mae'n amlwg, ar y dybiaeth fod y rhan fwyaf, os nad y cwbl, o'r defnyddiau wedi eu casglu. Credaf nad yw ond teg imi wneuthur yn hollol glir mai camdybiaeth oedd hynny, ac y bu raid imi, pan ym-