Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiriedwyd y gwaith i'm dwylo, ddechrau arno yn gyfangwbl o newydd.

Ofnaf bod llawer o ddefnyddiau gwerthfawr erbyn hyn wedi eu colli. Gofid dwfn a barai darllen rhai o'r atebion a dderbyniwyd oddiwrth gyfeillion yr anfonwyd atynt am eu cymorth, —bod ysgrifau, llyfrau, dyddiaduron, llythyrau, wedi bod unwaith yn eu meddiant, ond erbyn hyn naill ai wedi eu dinistrio neu wedi myned ar goll. Gwyn fyd na bai modd perswadio y rhai a feddant ddefnyddiau o'r fath, ynglŷn ag unrhyw ran o Hanes y Cyfundeb, i'w trosglwyddo i'r Greirfa Gyfundebol yn ddioedi. Erbyn hyn, hefyd, y mae ugeiniau o frodyr a chwiorydd a allasent gynorthwyo, gyda'u gwybodaeth a'u hatgofion, wedi eu cymryd ymaith. Ar brydiau bum mewn anobaith bron y llwyddid i ddyfod o hyd i unrhyw wybodaeth am rai cyfnodau o'r hanes; ond trwy ddyfal chwilio, a thrwy garedigrwydd a chymorth cyfeillion ewyllysgar, rhyfedd y modd y deuai asgwrn at ei asgwrn, cymal at gymal, ffaith at ffaith, nes y teimlaf yn lled hyderus bellach fod ffeithiau pwysicaf yr hanes wedi eu cael yn weddol gyflawn.

Ar wahan i'r pleser o gasglu'r ffeithiau a cheisio eu trefnu, y pleser mwyaf oedd canfod parodrwydd cyfeillion-rhai ohonynt yn estroniaid imi-i'm helpu. Caniatawyd imi weled neu fenthyg llawer o hen drysorau gwerthfawr, ac ni allaf byth fynegi maint fy niolchgarwch am hynny.

Yr wyf o dan ddyled drom i Dr. Tom Richards, M.A., Llyfrgellydd Coleg y Brifysgol ym Mangor; ac i Major Wheldon, B.A., Cofrestrydd y Coleg, am gael benthyg llythyrau a dyddiaduron Robert Jones, Rhoslan, a'i feibion, Daniel a Samuel Jones. Heb y rhain, prin iawn a fuasai hanes y cyfnod cyntaf. Cefais hefyd weled nifer o ysgrifau eraill a gedwir yn yr un Llyfrgell, fel y cydnabyddir yng nghorff y gyfrol.

Medd Mr. Hugh Lloyd, Richmond Terrace, Liverpool, ar gasgliad gwych o hen lyfrau a phamffledi yn ymwneud â hanes y Cyfundeb; rhoddwyd hwy i gyd at fy ngwasanaeth gyda'r parodrwydd mwyaf. Cyfaill arall a chwiliodd yn ddyfal hanes eglwysi'r cylch ydyw Mr. Isaac Davies, Birkenhead; rhoddodd yntau yn dra ewyllysgar bopeth oedd ganddo at fy ngalwad.