Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

"YR HEN BALL MALL" (parhad).

YNG Nghofrestr y Bedyddiadau, at yr hon y cyfeiriwyd yn y bennod flaenorol, heblaw y goleuni a roddir ynddi ar amddifadrwydd yr eglwys o weinyddiad yr Ordinhadau, daw i'r golwg rai ffeithiau diddorol mewn perthynas i aelodau cyntaf y Cyfundeb yn y dref, megis eu galwedigaethau, ac o ba rannau o Gymru yr hannent. Yn anffodus ni roddir y manylion hyn am yr holl rieni a gyflwynasant eu plant mewn bedydd, ond a chymryd y manylion sydd ar gael, hyd ddiwedd y flwyddyn 1810, am 170 o'r aelodau, ceir bod eu galwedigaethau fel a ganlyn: labrwyr, 50; seiri coed, 25; llifwyr (sawyers), 19; teilwriaid, 15; cryddion, 14; gofaint, 9; certwyr, 6; plastrwyr, 4; morwyr, 3; un neu ddau o siopwyr; cyfrwywr (saddler); draper; fferyllydd; gwneuthurwr pumps; gwydrwr; goleuwr lampau, etc. Er nad yw'r rhestr yn agos a bod yn gyflawn, dengys yn bur glir mai eglwys o weithwyr, digon cyffredin eu hamgylchiadau, oedd eglwys y blynyddoedd bore hyn, ac "nad llawer o rai doethion . . . galluog . . . boneddigion " a alwesid iddi. Yn wir disgrifir yr aelodau gan un ohonynt hwy eu hunain, Pedr Fardd, fel 'pobl dlodion ac isel eu hamgylchiadau, yn gyffredinol;" ac awgrymiadol o'u cyflwr ydyw'r hyn a ddywaid ymhellach, fod swm casgliadau yr eglwys (gan gynnwys, mae'n ddiau, y tair cangen oedd yn bod pan ysgrifennai ef yn 1826), at gynnal a chynorthwyo y tlodion Cymreig yn eu plith, oddeutu dau gant o bunnau bob blwyddyn."

Gan gymryd yr un cyfnod drachefn, sef hyd ddiwedd y flwyddyn 1810, cofnodir am 127 o'r rhieni o ba rannau o Gymru yr oeddynt yn enedigol: Sir Fôn, 55; Sir Ddinbych, 24; Sir Gaernarfon, 19; Sir Feirionnydd, 19; Sir Fflint, 6; Sir Drefaldwyn, 2; Sir Benfro, 2.

Heblaw bod yn bobl gyffredin o ran eu hamgylchiadau tymhorol yr oedd mwyafrif Cymry Liverpool y blynyddoedd hynny yn bobl anllythrennog, heb allu na darllen nac ysgrifennu eu hiaith eu hunain. Nid yw hyn yn beth i ryfeddu ato pan