gofir amgylchiadau'r wlad. Nid oedd yng Nghymru, yn y cyfnod hwnnw, unrhyw fanteision addysg o fewn cyrraedd y werin, ag eithrio yr ychydig Ysgolion Cylchynnol a drefnasai Mr. Charles. Cyfrifid nad oedd un o bob ugain o drigolion Cymru yr adeg honno yn abl i ddarllen, a cheid rhai ardaloedd cyfan heb gymaint ag un. Yr adeg y dechreuodd y Cymry ymsefydlu yn Liverpool mewn nifer lled fawr, nid oedd yr Ysgol Sul ond prin wedi ei chychwyn yng Nghymru, fel na chawsent hwy fwynhau ei manteision hi. Daeth y mwyafrif i'r dref, gan hynny, yn ddynion cwbl anllythrennog; ond, fel eu brodyr a adawsent yng Nghymru, yr oeddynt yn llawn awyddfryd am ddysgu. Prydferth iawn yw'r hanes a adroddir fel y byddai'r ychydig a fedrent ddarllen yn myned i dai eu cymdogion llai ffortunus i'w hyfforddi. Coffheir gan Corfannydd am un "John Edwards y teiliwr,"—gŵr cloff, wrth ei faglau, yn ymweled â'i fam ef "ddwywaith bob wythnos i'w dysgu yn yr A B C, hyd nes dysgodd ddarllen y Beibl a chael hyfrydwch ynddo." Yr un modd y gwnai eraill; wedi noswylio, aent i ddysgu eu cymdogion.
Nid oes sicrwydd pa bryd y dechreuwyd cynnal Ysgol Sabothol yn y dref ymysg y Cymry. Y cyfeiriad cyntaf a welsom ati sydd mewn llythyr a ymddangosodd yn y "Drysorfa Ysbrydol," Hydref, 1800; ond sonnir amdani yr adeg honno nid fel peth newydd, ond fel sefydliad oedd ar lawn gwaith. Dywedai Samuel Jones fod yr Ysgol Sabothol "yn ei llawn hwyl" yn y flwyddyn 1804,—y flwyddyn y daeth ef i'r dref; a chredai ddarfod ei sefydlu yn Pall Mall yn fuan iawn wedi ei chychwyniad yng Nghymru;"—fel y tybiai ef, rywbryd yng nghorff y flwyddyn 1789.
Prin iawn drachefn oedd y darpariaethau yn y dref y blynyddoedd hynny ar gyfer addysg gyffredin plant. Yr oedd Ysgol Rad—Ysgol Elusennol (Charity School) yr Hen Eglwys—ym Moorfields; a hefyd Ysgol Rad arall yn St. James' Road; ond rhaid oedd i'r ysgolheigion yn y ddwy fynychu'r Eglwys ar y Sul. Ceid ysgol ddydd ynglŷn ag eglwys y Bedyddwyr yn Byrom Street, ond yno drachefn rhaid oedd i'r plant fynd i'r capel hwnnw. Yr unig Ysgolion Rhad eraill oedd ysgol y Crynwyr yn Hunter Street, a'r ysgol ynglŷn â chapel yr Un-