Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dodiaid yn Paradise Street, a dywedir i amryw blant o blith y Cymry ei mynychu hi o bryd i bryd.[1] Rhoddwyd derbyniad i rai plant amddifad Cymreig i'r Blue Coat School, a gwnaed casgliad, ragor nag unwaith, yn Pall Mall tuag ati. Cyn hir, fodd bynnag, cododd gwrthwynebiad o du "rhyw rai rhagfarnllyd, am fod Catecism Eglwys Loegr yn cael ei ddysgu i'r plant."

Yr ymgais cyntaf i ddarpar ar gyfer addysg y Cymry oedd eiddo yr Eglwys Sefydledig. Ar Ddydd Gŵyl Ddewi, 1804, agorwyd yr Ysgol Elusennol Gymreig (Welsh Charity School) yn Russell Street," i addysgu, dilladu, a phrentisio plant tlodion Cymreig, genedigol yn Liverpool." Ystyrid yr ysgol hon "yn un o'r rhai goreu yn y dref;" cynhelid hi drwy danysgrifiadau. Amlwg iawn fod Mr. Charles, ar ei ymweliadau â'r dref, yn cynllunio ac yn gweithio yr un mor eiddgar ac egniol i ddyrchafu a goleuo Cymry Liverpool ag a wnai ar ran ei gyd- genedl yn y wlad, a gweithiai hefyd ar yr un llinellau. Mewn llythyr o eiddo Daniel Jones, Rhagfyr 20fed, 1806, dywaid bod Mr. Charles yn eu hannog "i ddysgu pennodau, a'u hadrodd yn gyhoeddus, a bod holwyddori i fod ym mhob Cappel, a'i fod yntau yn barod i ddyfod i'w holi." Yma, yn ddiau, y gwelir dechreuad y "Cymanfaoedd Plant " a fuont mor boblogaidd a bendithiol yn Liverpool megis yng Nghymru. Wrth weled mawr angen plant Cymry Liverpool am addysg, anogodd Mr. Charles y frawdoliaeth, yn y ddau gapel oedd yn bod y pryd hynny, Pall Mall a Bedford Street, i sefydlu ysgolion o'r eiddynt eu hunain. Cawn gyfeiriad at hyn yn yr un llythyr ag y dyfynwyd ohono uchod. Mewn ôl-ysgrif dywaid Daniel Jones: "Yr ydym am godi ysgolion rhad i blant y Cymry yn y ddau gapel; cewch glywed yn y nesaf." Yn anffodus nid yw'r "nesaf" ar gael. Gwelir, fodd bynnag, agor y ddwy ysgol yng nghorff y flwyddyn ddilynol, 1807. Penodwyd Peter Jones (Pedr Fardd) yn athro ysgol Pall Mall, a Lewis

  1. Gwelir, mewn blynyddoedd diweddarach, i "Henaduriaid yr eglwysi "benderfynu "bod ymchwiliad manwl plant i bwy o aelodau yr eglwys sydd yn myned i ysgol Yates (gweinidog yr Undodiaid yn Paradise Street), a bod iddynt rybuddio y cyfryw rieni na ellir ei goddef hwy yn yr eglwys oddieithr iddynt gymeryd eu plant oddiyno yn ddioed."