Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Humphreys yn athro ysgol Bedford Street. Pallodd iechyd Lewis Humphreys, gŵr a ddisgrifir fel gwr ieuanc ysgolheigaidd ac addawol," a'i olwg, gallwn gasglu, ar y weinidog- aeth, ac a fu, cyn dyfod i'r dref, yn cynorthwyo y Parch. Evan Richardson yn ei ysgol ef yng Nghaernarfon. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo; dychwelodd i Gymru yng ngwanwyn 1808, ac yno y bu farw, ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Ni cheir dim o hanes Ysgol Bedford Street ar ôl hyn, ond gwelir ei bod yn parhau mewn bod yn nechrau 1827, oherwydd ceir yng nghofnodion "Henuriaid yr eglwysi "anogaeth i'r "brodyr ag sydd yn dwyn sêl dros yr ysgol, i fyned oddi amgylch i gasglu tuag at dalu dyled yr ysgol ddyddiol yn Bedford Street." Cwynai Corfannydd nad "ysgol rad" oedd ysgol Pall Mall; "nad oedd pawb yn gallu talu y pris, ac felly bu llawer, fel fy hunan, yn gorfod ymofyn Ysgol Rad." Trwy ddylanwad meistr ei dad" cafodd ef dderbyniad i Ysgol y Crynwyr yn Hunter Street. Pa hyd y parhaodd Pedr Fardd yn athro ni wyddom.[1] Symudwyd yr ysgol yn 1823 i Festri hen Gapel y Bedyddwyr yn Great Crosshall Street, yr hwn y ceisiai y Methodistiaid ei brynu oddeutu'r adeg honno. Yr athro y pryd hwn oedd Owen Brown; a gwelir bod gŵr o'r enw William Cheshire, pregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr, wedi bod yn gofalu am dani am ryw gyfnod. Rhoddir rhif yr ysgolheigion fel" o ddeg ar hugain i ddeugain."[2]

Manylder, hyd at lymder, a nodweddai yr eglwys yn ei blynyddoedd cyntaf. Gweinyddid disgyblaeth yn ddiarbed, ac nid oedd dim o dan gondemniad trymach nag esgeulustra o'r moddion crefyddol. Diwrnod llawn a maith a fyddai'r Saboth i'r aelodau. Dechreuid y dydd gyda chyfarfod gweddi, o chwech o'r gloch hyd hanner awr wedi saith. Am naw o'r gloch pregeth, a barhai yn gyffredin hyd hanner awr wedi deg neu chwarter i un ar ddeg. Ar ôl y bregeth ymffurfid yn ddosbarthiadau yr Ysgol Sul. Parhai yr Ysgol hyd ddeu-

  1. Dywaid Arfonog yn ei Draethawd Arobryn ar Bedr Fardd iddo barhau yn ysgol-feistr am dair blynedd ar hugain. Gwelir ei ddisgrifio fel "School Master Teacher" yn y Directories am y blynyddoedd 1810 hyd 1829.
  2. Joseph Davies, "Bedyddwyr Cymreig Glannau'r Mersi," t.d. 106.