Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeg. Y prynhawn, am ddau, pregeth; ac ar ôl y bregeth, Ysgol eilwaith. Am chwech, pregeth drachefn, a chyfarfod eglwysig maith ar ôl. Ceir cyfeirio at y pethau hyn yn helaeth- ach mewn pennod ddilynol. Disgwylid i'r aelodau roddi eu presenoldeb yn yr holl gyfarfodydd hyn, a gelwid i gyfrif, yn gyhoeddus, os gwelid arwyddion o lacrwydd. "Ni esgusodid hyd yn oed wragedd â phlant yn sugno bronnau. Byddai'r mamau yn myned a melysion a chacennau yn eu poced i gadw'r plant yn ddiddig. Byddai eraill yn myned a gwialen fedw yn eu poced, ac os byddai plant yn aflonydd neu'n llefain, eid a hwy allan, a chlywid eu hysgrechian yn y capel; yna dygid hwy yn ol i edrych a fyddai gwelliant yn eu moesau."

Rhoddid llawer o sylw, y mae'n amlwg, gan sylfaenwyr yr eglwys i addysg y plant. Gwylid yn fanwl ar fywyd y cartref, ac ni chaniateid i neb fod yn aelodau oni chynelid "y ddylet- swydd deuluaidd " yn gyson bob dydd ar eu haelwydydd. Mewn rhai cwrtydd, yng nghymdogaeth Old Hall Street, lle trigai llawer o'r Cymry yn y tai nesaf i'w gilydd, nid peth dieithr a fyddai i'r rhai a elent heibio glywed sŵn " yr addoliad teuluaidd " yn esgyn o amryw ohonynt, a pharai syndod di-fesur i'r cymdogion Seisnig a Gwyddelig. Ni chaniateid yn y blynyddoedd cyntaf i'r plant fynychu Seiadau y rhai mewn oed. Ar nos Sabothau, pan gyfarfuai'r eglwys wedi'r bregeth, elai'r plant i'r ysgoldy o dan y capel, lle cynhelid "seiat plant proffeswyr," ac ni chaniateid i blant neb arall ei mynychu. Am ryw dymor, cyn, fe ddichon, i'r Ysgol Sul ddyfod i'w hiawn drefn, cynhelid "seiat plant ar ôl pregeth y bore, tra'r eglwys yn cynnal seiat" yn y capel. Dyfynnwn y rhannau a ganlyn o'r llythyr y cyfeiriwyd ato a ymddangosodd "Drysorfa Ysbrydol," Hydref, 1800, gan y teifl oleuni diddorol ar fywyd yr eglwys yn y blynyddoedd cyntaf hyn. Uwch ei ben ceir y pennawd: "Y dull o ddysgu a hyfforddi Plant, a arferir gan Eglwys y Cymry yn Liverpool," a therfynai: "Ydwyf, eich anheilwng gyfaill yn yr Arglwydd, D.A.J." Credwn nad oes amheuaeth nad Daniel Jones oedd awdur y llythyr. Dywaid:

"Y mae'r bregeth, chwi wyddoch, yn dechreu bore Saboth yn ein Ty Cyfarfod ni am naw o'r gloch, ac y mae pawb o