Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aelodau ein Cymdeithas yn rhwym, trwy orchymyn, i ddwyn eu plant i'r bregeth honno. Wedi'r bregeth, yr ydym yn cadw cyfarfod neilltuol gyda'r plant, i'w holi a'u haddysgu yn egwyddorion crefydd. Y cyfarfod hwn a gyfenwir Society y Plant." Nid oes neb yn oddefol ynddo ond plant proffeswyr yn unig. Os bydd y gwr yn aelod eglwysig, a'r wraig heb fod; neu yn y gwrthwyneb, y mae yr un fraint i'w plant a phe bai'r ddau wedi ymuno. Nid oes un oedran yn eu cau allan, os byddant o ddeall i dderbyn addysg. Yr ydym yn cadw coflyfr ag enwau'r plant hyn yn ysgrifenedig ynddo; ac os cawn wrth eu galw fod neb ar ol, y mae rhieni y plant yn agored i gerydd. Y mae'r plant eu hunain yn agored i ddisgyblaeth am eu beiau, ie, i'w torri allan, os na ellir eu hadgyweirio. Pethau plentynaidd ynglyn wrthynt o ran eu babandod, sydd oddefol, ond nid ydym yn goddef yn ddigerydd y pechodau canlynol: chwareu ar y Saboth, tyngu, dywedyd celwydd, lladrad, anufudd-dod i'w rhieni, a'r cyfryw. Os gwelwn ryw arwydd- ion o weithrediadau Ysbryd Duw ar eu meddyliau, yr ydym yn eu hanog i ddyfod i gymdeithas yr eglwys, pan y byddo yr aelodau yn cyfarfod.

"Y mae gennym Ysgol Sabothol rhwng yr oedfa am ddau, a'r bregeth am 6 o'r gloch. Y mae hon yn agored i holl blant y Cymry i gyd[1]. Ac os gwelir dim arwyddion o symlrwydd ar rai ohonynt yr ydym yn eu hanog i ddyfod i Society y plant bore Sul.


Yn ein haddysgiadau iddynt yr ydym yn dra gofalus am arferyd y geiriau mwyaf addas i'w babandod a'u dealltwriaethau gweiniaid, ac yn sylwi yn fwyaf neilltuol ar bynciau sylfaenol crefydd, megis cwymp dyn a'i hollol lygriad trwy'r cwymp; y mawr ddrwg sydd mewn pechod a'r angenrheidrwydd am waredigaeth oddiwrtho; gogoniant Person Crist, dyben ei ddyfodiad i'r byd; ei ddarostyngiad a'i ddioddefaint, ei ad- gyfodiad a'i oruchafiaeth; ynghyda phob peth perthynol i waith y prynedigaeth: hefyd am waith yr Ysbryd Glân, a'r angenrheidrwydd ohono; rheolau buchedd sanctaidd, a phob

  1. Dywedir y byddai yr Annibynwyr yn mynychu Ysgol Sabothol y Methodistiaid yn Pall Mall cyn iddynt ddechrau eu hachos eu hunain yn 1800.