Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

peth arall sydd iddynt hwy o bwys, er eu hiechydwriaeth, i'w hystyried, eu gwybod, eu profi a'u bucheddu.

Yr ydym yn gwbl o'r un feddwl a'n brodyr a'n tadau megis ag y penderfynasant yn y Gymdeithasfa ddiweddaf: 'Fod gan blant y ffyddloniaid hawl i ddoniau yr Eglwys, yn ychwanegol at yr addysgiadau a gânt yn deuluaidd ac yn gar- trefol.'. . . Os felly, mor alarus yw meddwl am ein hanffydd- londeb tuag atynt hyd yn hyn. Ataliasom oddiwrthynt hyd yn ddiweddar yr hyn a allasai fod o fawr fendith iddynt. Nid oes gennym ond llefain ar i Dduw faddeu i ni. . . . .'

Dengys y llythyr hwn fod cryn newid wedi dyfod dros feddwl y "brodyr a'r tadau " yn Liverpool, a'r wlad hefyd, ynglŷn â pherthynas plant yr aelodau â'r "Society." Cawn Daniel Jones yn ysgrifennu at ei dad, Ionawr 5ed, 1799, yn agos i ddwy flynedd cyn i'r llythyr hwn ymddangos, a dywaid iddo fod yn yr " Association "—ni nodir ymha le: "Diau fod Duw yn y lle hwn, gyda'i Bobl yn Brifat a chyhoeddus. Yn Brifat triniwyd ychydig am rai o Briodoliaethau yr Arglwydd. . . am y Cyfarfod Gweddi . . (How do you like this): am ddwyn Plant Proffeswyr i gyd yn ieuangc i'r Society Brifate a'u disgyblu a'u holi am eu profiadau fel adults." Y mae'n amlwg oddiwrth lythyr D.A.J. i drafodaeth fod ar yr un mater mewn rhyw Gymdeithasfa yn 1800, ac mai yr adeg honno y penderfynwyd agor drws y Society" i blant yr aelodau.

Estynnid i'r chwiorydd yn yr eglwys holl freintiau ysbrydol" yr eglwys fel y meibion, ond ni chaniateid iddynt unrhyw ran yn ei llywodraethiad na ffurfiad ei threfniadau. Ni feddent hawl i bleidleisio ar ddewis blaenoriaid, nac ychwaith ar ddewis swyddogion yr Ysgol Sabothol. Mewn Gweithred Gyfreithiol, dyddiedig y flwyddyn 1817, ynglŷn â chapel Pall Mall, datgenir yn glir mai "aelodau gwrywaidd" o'r "Gymdeithas yn Liverpool" a feddent hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn ynglŷn â'r tir a'r adeiladau. Yn yr un Weithred gwnaed darpariaeth bellach, a ymddengys yn dra phriodol a doeth, na feddai neb ar hawl i bleidleisio "oni byddai yn aelod o'r eglwys ers o leiaf ddeuddeng mis," felly mewn mantais i ffurfio barn bersonol ar yr achos.