Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cododd amryw gwestiynau lled anodd a dyrys ynglŷn â disgyblaeth yn fore yn hanes yr eglwys. Mewn achosion petrus, byddai'r brodyr yn oedi dyfarniad hyd oni cheid ymgynghoriad â'r gweinidogion a ddeuent o'r wlad, a chyfeirir nifer o weithiau at gwestiynau a adawsid heb eu penderfynu nes cael barn y brodyr a ddeuent i Gymanfa'r Sulgwyn." Rhyfedd yw canfod bod y cwestiwn cyntaf o ddisgyblaeth y ceir adroddiad amdano, yn dal perthynas â'r gaeth-fasnach! Mewn hen lawysgrif, dyddiedig 1806, yn dwyn y pennawd "Disgyblaeth mewn Cymanfaoedd," dywedir: "Buom yn Liverpool yn dywedyd llawer am Bechadurusrwydd y Slave Trade, a'r mawr berigl i neb sydd yn proffesu duwioldeb fod ag un llaw ynddo. Cawsom fod rhai o'r Brodyr yn gweithio yn y llongau sydd yn y trade melldigedig hwn, ie, un ohonynt yn gweithio cadwyni i'w rhoddi am y caethion truain; anogasom ef i roddi y gorchwyl i fyny yn ddioedi; anogasom bawb i beidio ymdrin a dim sydd yn perthyn i'r gorchwyl creulon hwnw. Dangosasom y dylent ei rhoddi heibio pe baent yn methu cael gorchwyl arall yn ei le, ie, pe baent yn marw o newyn yn y canlyniad: Gwell marw o newyn na chael llawnder o fara wrth fod yn gyfranogion o waed!!!"'1 [1]

Yn yr un cofnod adroddir am" achwynion "yn erbyn aelodau a werthent ac a brynent laeth ar y Saboth. Yn yr achos cyntaf "danghoswyd nad oedd peidio a'i werthu ar y Sabbath yn achos o un gwastraff ar y drugaredd, oblegid y gellir gwneud cystal defnydd ohono drwy gorddi llaeth y Sabbath yn yr wythnos ganlynol. . . . . Cyfaddefodd y dyn y gellid gwneuthur hynny yn ddigolled ar y drugaredd, ond y byddai ef yn debig o golli ei gwsmeriaid. Atteb: nad oedd hyn ond colled iddo ef, ac nad oedd ein colled ni ddim i'w roddi yn y clorian gyd a gorchymyn Duw; ac hefyd na wyddai ef ddim y collai ei gwsmeriaid. . . y gallai Duw lwyddo ei sefyllfa

  1. Belmont MS No. 17, Llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor. Cafwyd y MS ymysg papurau y Parch. Roger Edwards. Ni wyddis pwy yw ei awdur, ond y mae cymaint tebygrwydd yn yr ysgrifen i eiddo Robert Jones, Rhoslan, fel na phetruswn gredu mai ei eiddo ef ydyw.