Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

felly cystal; . . . ac os gwelai na allai fyw heb gydffurfio a'r arfer bechadurus o werthu llaeth ar y Sabbathau, am iddo roddi y sefyllfa i fyny yn ddioed." . . " Dangoswyd hefyd nad oedd dim anghenrheidrwydd anhebgorol am laeth i'r tai ar y Sabbath. Gofynasom i'r eglwys, tua 400 o nifer, a oeddent hwy yn gallu byw heb brynu llaeth y Sabbath; attebasant eu bod. Gwelsom gan fod cymaint o nifer yn gallu byw heb brynu ar y Sabbath, y gallai holl drigolion y dref fyw felly yr un modd. . . . Ymddiddanasom hefyd a gwr sydd yn cadw ty pobty, a'i wraig, yr hon sy'n ddigrefydd yn arfer twymno y pobty ar y Sabbathau: dywedodd ei fod ef yn anfoddlon i'r peth, ond ei fod yn methu cael llywodraeth ar ei wraig i'w rhwystro hi i wneuthur felly; dangoswyd iddo bod yn ddyledus arno lywodraethu ei dŷ ei hun; . .. dangoswyd bod ei waith yn goddef ei wraig wneuthur y gorchwyl hwnw ar y Sabbath yr un a phe gwnelsai ef hyny ei hun, os nad oedd yn fwy pechod goddef ei wraig yn y pechod: . . . anogwyd ef i fynu llywodraeth ar ei dŷ yn ddioed, ac onite na allem ei ddyoddef yn yr eglwys. . . . Anogwyd yr holl eglwys yn bwysig a difrifol iawn i ochelyd gyda'r gofal mwyaf rhag i neb ohonynt brynu llaeth na chwrw, nac un math o ddiod ar y Sabbath oddieithr ei bod ar daith i foddion gras, neu ryw anghenrheidrwydd anocheladwy, na mynd a bwyd i'r pobty chwaith."

Codai llu mawr o gwestiynau o bryd i bryd ynglŷn â chadwraeth briodol y Saboth, ac yn arbennig ynglŷn â'r morwyr a ddeuent i'r dref, neu a drigent yn y dref. Er bod cynifer o forwyr Cymreig yn byw yn Liverpool y blynyddoedd hynny, gwelir oddiwrth y rhestr o alwedigaethau yr aelodau a roddwyd yn nechrau'r bennod, nad oes ond tri morwr yn y rhestr. Yr eglurhad ar hynny mae'n sicr ydyw hyn, na chaniateid i'r rhai oedd â'u gorchwylion ar y môr aelodaeth yn yr eglwys oni threfnent y gorchwylion hynny yn y fath fodd ag i fod ar y lan y Saboth. Yr oedd amryw o'r Pilots yn wrandawyr cyson, ac yn ddynion dichlynaidd, ond am fod gorfod arnynt ddilyn eu galwedigaeth yn achlysurol ar y Saboth, ni chaniateid iddynt aelodaeth eglwysig. Yr un modd am Gapteniaid a llongwyr cyffredin, a'r Dock-gate-men, a agorent ac a gauent y llif-