ddorau yn y dociau. Pan ddygwyd nwy i oleuo'r dref, cafodd nifer o'r Cymry waith ynglŷn â'r Gas Works newydd; ond oherwydd bod eu galwedigaeth yn eu gorfodi i weithio yn eu tro ar y Saboth, ni oddefid hwy yn yr eglwys,—er y defnyddid cynnyrch eu llafur yn ddibetrus i oleuo'r capeli! Yn y mater hwn o gadwraeth y Saboth, ac yn wir ymhob cwestiwn o ddisgyblaeth, dangosai'r Methodistiaid fanylder a thoster llawer mwy na'r un enwad arall. Adroddir ddarfod gweinyddu cerydd llym ar un aelod am "falchter cnawdol" oherwydd iddo ddefnyddio "blacking" i lanhau ei esgidiau, yn lle saim gwydd!
Fel yr awgrymwyd, yr oedd cyfran helaeth o gynulleidfa Pall Mall o'r cychwyn cyntaf yn forwyr, a disgrifir hwy fel "dynion ardderchog." Nid oedd eu rhagorach am ganu, a mynychent bob moddion o ras yn gyson. Croesawid hwy yn gynnes i dai yr aelodau, a rhoddid lle amlwg iddynt yng ngweddiau'r eglwys. Y tu cefn i'r pulpud yr oedd bwrdd bychan ar y mur, a'r geiriau "Cofiwch y Morwyr yn y Weddi" yn argraffedig arno. Am ryw gyfnod, na wyddom i sicrwydd am ba hyd, gwnaed darpariaeth arbennig ar eu cyfer mewn ystafell yn Lancelot Hey. Heol gul yw Lancelot Hey yn awr, islaw Old Hall Street, ac yn rhedeg yn gyfochrog â hi. Yn y blynyddoedd hynny ceid yno nifer o dai marsiandwyr cyfoethog, gyda gerddi helaeth y tu cefn iddynt, yn wynebu'r afon. Pan ddechreuodd y marsiandwyr symud i fyw "y tu allan i'r dref," gosodwyd y tai i amrywiol ddibenion. Am oddeutu pedair blynedd, sef o 1806 hyd 1810, bu'r Bedyddwyr Cymreig yn cynnal moddion mewn ystafell yno; ac adroddir fod yng ngardd un o'r tai "ysgoldy wedi ei wneuthur, yn yr hwn y cadwodd y Trefnyddion Calfinaidd foddion i bregethu, cyfarfodydd gweddi, a seiat, am rai blynyddoedd, er mwyn bod yn gyfleus i'r llongwyr Cymreig a ddeuent i ddadlwytho a llwytho yn y Welsh Basin." Y tebygrwydd yw ddarfod i'r Methodistiaid gymryd meddiant o'r ystafell wedi symud o'r Bedyddwyr i ystafell arall ym Marble Street, allan o Williamson Square. Ceir cyfeiriad at yr ystafell yng Nghofnodau Cyfarfodydd Misol yr Henuriaid " am Medi 10fed, 1822: "Bod i ran o'r Society nos lau i gael ei chynal yn Lancelot's Hey, i gymeryd