Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lle mor fuan ag y gellir." Pa bryd y rhoddwyd yr ystafell i fyny, ni wyddom.[1]

Hawdd iawn ydyw credu bod ymysg aelodau cyntaf yr eglwys a'r gynulleidfa lawer cymeriad gwreiddiol a diddorol, a llawer sant disglair, ond y mae hanes y mwyafrif ohonynt wedi myned bellach i ebargofiant. Cyfeiriwyd bod amryw o'r Cymry cyntaf a ddaeth i'r dref wedi gorfod gadael eu gwlad oherwydd erledigaeth. Ymysg y dosbarth hwn ceir un gŵr y daw ei enw i'r golwg yn fuan yn hanes eglwys Pall Mall,—John Lloyd, Ray Street. Brodor ydoedd o Sir Aberteifi, a gôf wrth ei alwedigaeth. Tra'n llanc anystyriol yn dilyn ei alwedigaeth yn Eglwys Fach, Aberteifi, trefnodd gyda chyfaill i fyned ar Saboth penodol i ymweled â "Betti Llanon,"—gwraig a gymerai arni "ddywedyd tesni" (fortune telling). Digwyddodd yn ddamweiniol ddyfod i'w law cyn y Saboth lyfryn bychan yn dwyn y teitl "Câs gan Gythraul," yn dinoethi drwg dewiniaeth. Brathwyd ei gydwybod, a meddiannwyd ef gan ofn mawr. Pan ddaeth ei gyfaill i'w geisio, hysbysodd yn gynnil ei deimladau iddo wedi darllen y llyfr. Chwarddodd y cyfaill am ei ben, gan ddywedyd yn ddiystyrllyd, "Llyfr y Methodistiaid ydyw!" Fodd bynnag, wedi iddynt eu dau edrych drwyddo, a'i gymharu â'r Ysgrythur, argyhoeddwyd hwy ei fod yn wir, a phenderfynasant na fyddai iddynt ddim a wnelont â'r ddewines. Parhaodd cydwybod "Jac y Gôf " i'w flino; breuddwydiai am y Farn, a'r Barnwr, a'r ddedfryd, a'r tywyllwch eithaf. Yn ei fraw neidiodd un noswaith allan o'i wely. Yr oedd arno eisiau gweddio, ond ni wyddai pa fodd. Gwyddai'r Pader, ac adroddodd hwnnw ar ei liniau drwy'r nos, drosodd a throsodd, hyd nes torrodd y wawr drannoeth. Yr oedd yn y gymdogaeth ychydig Fethodistiaid, ond ofnai nesu atynt, oherwydd iddo gynt eu gwawdio. Mentrodd, fodd bynnag,

  1. Gwelwn, yn Nyddlyfr Samuel Jones am 1834, "ddarllen llythyr a ddaeth at yr eglwys yn Liverpool o Lundain mewn perthynas i neilltuad y brawd Capten Edward Humphreys o'r Bermo i fod yn Henuriad neu yn flaenor yn bennaf ymhlith y Morwyr. Amlygodd yr holl eglwys eu cydsyniad a'u boddlonrwydd i'r hyn a wnaeth y brodyr yn Llundain." Nid oes wybodaeth a fu unrhyw gysylltiad rhwng Capten Humphreys â'r gwaith a ddygid ymlaen yn ystafell Lancelot Hey, nac ychwaith fu iddo dreulio rhyw gymaint o'i amser yn Liverpool.