Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddweud ei bryder wrth un ohonynt, gwraig a olchai ei ddillad, a'i fod am ddyfod gyda hi y Saboth i gapel Rhyd-y-felin.

"Gwyn fyd na ddeuet!" ebe hi; "ond mi wn mai fy nhwyllo yr wyt!" Ond er ei syndod, bu'r gôf ieuanc yn un â'i air y tro hwn. Yn fuan ar ôl hyn, daeth galwad arno i ddychwelyd i'w hen gymdogaeth, ryw ddwy filltir o gapel Tre'r-ddol. Addawodd y Steward roddi iddo dŷ, a gefail, a gofalu hefyd am waith iddo. Ond er newid ei drigfan, parhai ei anesmwythid meddwl. Aeth at ddrws capel y Methodistiaid yn Nhre'r Ddol ddwywaith, ond methodd â chael digon o wroldeb i fynd i mewn. Y drydedd waith mentrodd, doed a ddelo; ac er ei syndod, rhoddwyd iddo dderbyniad siriol a charedig. Lledodd y sôn amdano, a chyrhaeddodd i glust y Steward fod "Jac y Gôf" wedi bwrw ei goelbren gyda'r Methodistiaid. Yn ddioed wele orchymyn oddiwrth y gŵr mawr hwnnw "iddo adael ei grefydd neu adael ei efail a'i dŷ." Ni phetrusodd yntau pa fodd i ddewis. Collodd ei waith a'i gartref, a bu ef a'i wraig ieuanc mewn cryn galedi. O'r diwedd gwerthasant yr ychydig ddodrefn oedd ganddynt, a chyfeiriasant eu camau i Liverpool draw,-taith faith a blin. Yr oedd hynny yn y flwyddyn 1800. Daeth yn fuan yn fawr ei barch gan ei frodyr crefyddol. Er na ddewiswyd ef yn flaenor yn yr eglwys, llanwai le amlwg ynddi; a chyfrifid ef yn ŵr o ymddiried; ef am flynyddoedd lawer a fu'n Drysorydd cyffredinol y Cyfundeb yn y dref, a daliodd y swydd hyd ei hen ddyddiau. Bu farw ei wraig, a phriododd eilwaith â gweddw John Gaius, teiliwr, yr hwn hefyd a fu'n "cadw Tŷ Capel" Pall Mall am amryw flynyddoedd. Parhai ei weddw i ofalu am y Capel, ac wedi iddo ymbriodi â hi, symudodd John Lloyd i'r Tŷ Capel i fyw, ac fel "John Lloyd, Ty Capel Ray Street" yr adweinid ef weddill ei oes. Gyda hwy y lletyai y rhan fwyaf o'r gweinidogion a ddeuent i'r dref, ar ôl ymadawiad Daniel Jones.

Y flwyddyn y daeth John Lloyd i'r dref, 1800, daeth gŵr o gyffiniau Conwy yno hefyd,—William Gibson a'i wraig, a'u bachgen deg oed, John. Eu bwriad oedd ymfudo i'r America, ond bu i'r fam freuddwydio breuddwyd a'i dychrynodd yn fawr, a phenderfynasant ymsefydlu yn Liverpool. Aeth y