droes yn fasnachwr, ac a gasglodd gyfoeth. Gwasanaethgar gyda phethau allanol yr achos yn y capel mawr. Bu'n flaenor yma am dros 12 mlynedd. Cyson yn y moddion. Addawodd dir yn rhad i'r adeiladau a fwriedid eu codi ynglyn â'r capel. Cwblhawyd ei addewid gan ei feibion ar ei ol. Bu farw Rhagfyr 1, 1898.
Ystyrrid Morgan Jones yn ddyn o allu. Efrydodd y Dr. Lewis Edwards o'i ieuenctid, yn arbennig Athrawiaeth yr Iawn. Darllenai Thomas Charles Edwards a D. Charles Davies. Meddai ar synnwyr da, a barn, ac yr oedd yn gynghorwr. Cerddor da. Yn ddyn o ysbryd crefyddol. Blaenor yn y Waen ers 1875, ac yn arwain yr eglwys yma gyda Mr. Thomas Jones hyd 1887, pan y galwyd hwy, gydag eraill, yn ffurfiol i'r swydd. Fe fu'n codi canu ynghyd ag eraill yn y Waen, ac yn drysorydd yno am 25 mlynedd, megys yr oedd yma hefyd hyd ddiwedd ei oes. Y golofn amlwg yma o'r dechre. Yn wyllt o dymer, ond yn cael gras ataliol. Naws ieuenctid arno. Yn wr tyner ei deimlad, yn egwyddorol ac yn hunan-aberthol. Cynneddf naturiol a diwylliant wedi eu mantoli yn ddymunol. Ei farwolaeth yn ergyd drom i'r achos, yr hyn a ddigwyddodd Hydref 21, 1899, pan yn 77 oed.
Y ddyled erbyn 1899 o dan £200. Yr holl draul o'r dechre ynglyn â'r adeiladau hyd at 1899, £1573. Traul o £1565 am yr adeiladau newyddion, sef tŷ i'r gweinidog, tŷ capel, ysgoldy i gynnwys 300, ystafell fechan ar gyfer dosbarthiadau darllen, a chegin. Y gwaith wedi ei orffen erbyn diwedd 1900. Swm y treuliau ar yr adeiladau o'r dechre, £3137.
Y mae'r cyfarfod gweddi bore Sul am 9 ar y gloch wedi bod yn un bendithiol, yn enwedig i ddynion ieuainc. Cynhaliwyd y cyfarfod pregethu cyntaf yma, Hydref 6, 1895, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. G. Roberts Carneddi ac Abraham Oliver Talsarnau. Ar ol hynny, cynhaliwyd y cyfarfod ym mis Medi. Sefydlwyd yma Gymdeithas Lenyddol lewyrchus. Y mae gwedd lewyrchus wedi bod, hefyd, ar ganiadaeth yma. Mr. G. G. Jones Ty'ntwll yw'r arweinydd.
Y mae gan Mr. Thomas Jones sylwadau ar rai personau heb fod yn swyddogion. Un a weithiodd yn egniol yn y winllan ar