Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyd ei oes oedd Humphrey Owen Pant y cerryg. Yn flaenllaw yn y seiat, ac yn cymeryd lle blaenor yno yn fynych. Yn wr duwiol a'i gynghorion yn cyrraedd adref. Wrth gynghori i gyfrannu, adroddai am Guto Dafydd yn rhoi ei hanner coron diweddaf at yr achos. Trannoeth fe welai dwmpath gwâdd yn codi i'r golwg, ac, er ei fawr syndod, hanner coron yn disgleirio allan ohono. "Wel- wchi, fel y mae'r Arglwydd yn talu!" ebe yntau. Ni fu fy Hanes fy Hun, neu, fel arall, Evan Owen Ty'n twll, yma ond am ysbaid ferr; ond bu o wir gynorthwy yn yr ysbaid honno. T. J. Thomas Coed gwydryn a feddai ragoriaethau uchel er yn blentyn. Yn y cyfarfod llenyddol blynyddol, yr oedd ar y blaen ym mhob cystadleuaeth y cymerai ran ynddi, a safai ymhlith yr uchaf yn yr arholiadau sirol. Yr oedd iddo gymeriad gloew. A disgwylid bethau gwych oddiwrtho. Dechreuodd ei iechyd ballu ym misoedd cyntaf ei brawf fel pregethwr, ac yntau wedi myned i goleg Aberystwyth. Bu farw mewn hyder mabaidd, Mawrth 1, 1895, yn 21 oed.

Ceisir crynhoi yma rai o sylwadau Mr. Benjamin Williams ar rai o'r cymeriadau y sylwir amynt ganddo ef. Henwr ffyddlon, brwdfrydig gyda'r capel newydd oedd Dafydd Roberts Ty'n y clwt (m. Ebrill 22, 1887, yn 75 oed). Distaw yn yr eglwys oedd Sarah Anne (priod y Dr. W. Hughes), ond rhyfeddol fyw gyda phethau allanol yr eglwys. Merch Mr. Evan Evans, ac yn dwyn ei nodweddion (m. Awst 31, 1890, yn 32 oed). Jane Jones Vronoleu, mam Mr. T. Jones yr ysgolfeistr, oedd un o'r ffyddlonaf o'r merched, os nad y fwyaf felly. Yn brydlon ac yn gyson yn mhob cyfarfod, rhag disgyn o'r Ysbryd pan na byddai hi yno (m. Tachwedd 3, 1890, yn 76 oed). Gydag Ellen Jones Llys Elen yr oedd llety'r pregethwyr y blynyddoedd cyntaf. Gwraig ddeallus, siriol, selog, ddiwyd, rinweddol, ofalus (m. Mehefin 1, 1891, yn 50 oed). Robert Griffiths Llys Meredydd, mab Dafydd Roberts Ty'n y clwt, oedd un o'r colofnau. Yn fyw gyda'r gwaith o gychwyn yr achos. O feddwl eang ac yn weledydd gweledigaethau. Efe a gynhyrfodd gyntaf am weinidog (m. Mehefin 1, 1892, yn 46 oed). William Hughes Bodlondeb, tad y Dr. Hughes, oedd yntau yn golofn yn y moddion cyhoeddus (m. Hydref 12, 1893, yn 83 oed). Humphrey Owen Pant y cerryg a ymdrechodd lawer am gael capel yn y pen yma i'r ardal mor bell yn ol ag 1863, ac yr ydoedd yr un mor selog gyda'r ymdrech ddiweddarach. Yn wr dawnus, yn ysgrythyrwr