Gwirwyd y dudalen hon
a diwinydd, yn athro llwyddiannus, yn weddïwr cyhoeddus grymus (m. Mai 15, 1895, yn 82 oed). Thomas Jones Llys Elen (priod yr Ellen Jones a grybwyllwyd am dani) oedd wr y byddid yn well wedi bod yn ei gwmni. Darllenai lawer, a gwnae yr hyn a ddarllenai yn feddiant iddo'i hun. Yn un o'r athrawon goreu, ac yn gerddor gwych. Brawd i Mr. J. W. Thomas Bryn Melyn (m. Mawrth 5, 1897, yn 65 oed).
Rhif yr eglwys yn 1900, 199. Swm y ddyled, £135 7s. 9½c.