Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TANYCOED.[1]

Gorwedd yr ardal fechan yma cydrhwng Ceunant a Phontrhythallt, y lle olaf gerllaw Llanrug. Y mae rhyw gymaint dros filltir o ffordd i'r Ceunant, a honno yn allt go drom at ei gilydd. Cyn cychwyn unrhyw foddion crefyddol yma, yr oedd y nifer fwyaf o'r bobl yn ddibroffes. Ychydig oedd yn proffesu gyda'r Methodistiaid.

Dechreuwyd cynnal Ysgol Sul yma yn 1887. Rhoes Mr. John Hughes Pant y coed fenthyg llofft i gynnal ysgol Sul a chyfarfod plant yn ystod yr wythnos. Maint y llofft, 6 llath wrth 5, a'r tô yn rhedeg un ffordd. Nifer yr ysgol, 92, wedi eu rhanu yn 9 o ddosbarthiadau. Y plant wedi eu cyfleu lle'r oedd y tô yn isel. Cyfartaledd presenoldeb y flwyddyn gyntaf, 70. Yr arolygwr cyntaf, John Hughes Pant y coed; ysgrifenyddion, Edward Davies Gelliod a Thomas P. Jones 'Rallt; arweinwyr y canu, John Hughes Cae'rweddus, William O. Jones ac Edward Davies. Rhai eraill fu'n offerynnol i roi cychwyn i'r ysgol,—Jeffrey Roberts, Owen Jones, Robert Davies, John Davies, David Edwards, R. T. Jones, Rolant Roberts, Robert Owens. Am dymor byrr bu Richard Hughes, D. O. Hughes, W. P. Jones, H. T. Parry, yn cynorthwyo o'r Ceunant.

Gwnawd cais at eglwys y Ceunant am ganiatad i godi ysgoldy. Nid oedd addfedrwydd i hynny. Apeliwyd at y Cyfarfod Misol. Nodwyd i ystyried y cais, y Parchn. W. Rowlands Cefnywaen a T. Gwynedd Roberts. Cyfarfyddwyd hwy gan John Hughes Pant y coed, John Davies Maes y gerddi, Jeffrey Roberts, Robert Davies, Owen Jones Ty'n llwyn. Daethpwyd i'r penderfyniad fod angen ysgoldy yma, ac adeiladwyd yn 1890. Ei gwerth, oddeutu £250. Y tir wedi ei bwrcasu y flwyddyn flaenorol am £24, y swm yma yn gynwysedig yn y cyfanswm blaenorol.

Sefydlwyd yr eglwys nos Fawrth, Rhagfyr 28, 1897, gan y Parchn. David Williams Cwmyglo, Lewis Williams Waenfawr a Mr. Morris Roberts Llanrug. Rhif yr eglwys ar y cyntaf, 49.

  1. Ysgrif o'r lle.